Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Rho dy lef yn adnewyddol,
Ar y bobol i gael byw.[1]
XCI.
RHYW dyddd y ddau broffwyd dan rodio
Ymddiddan y maent am y ne,
Daeth cerbyd o dân i'w gwahanu,
A gosgordd angylaidd oedd gre;
Er cymryd Elias i'r nefoedd,
Fe syrthiodd y fantell i lawr,
Pan godo Duw rywun i'w gwisgo,
O dwyllwch y golled daw gwawr.[2]
XCII.
CRYNED uffern fawr, os myn,
Nid aiff colled,
Myn Iesu werth ei waed yn wyn,
Er ein dued;
Ni thry ewyn iddo'n ol,
Mae'n resolfo,
Ac aed a'i eiddo ar ei ol,—
Llwyddiant iddo.
- ↑ Cafwyd gan Mr. Evan Jones, Tre Ddafydd. Pen y Groes, Arfon.
- ↑ Wedi i'r Parch. Wm. Roberts Amlwch orfen traddodi ei bregeth goffadwriaethol am y Parch. John Elias, yn Sasiwn y Bala, 1841, rhoddodd y Parch. Humphrey Gwalchmai bapuryn yn ei law ac arno y pennill hwn. Lediodd William Roberts ef wedyn, a bu canu toddeidiol arno. Dywedai John Elias ychydig cyn ei farw—"Rwyf yn gobeithio y byddaf yng ngwely cystudd ar ddydd Cymanfa y Bala, canys dymunwn fod y diwrnod hwnnw, naill ai yn y Bala, neu yn y nefoedd." Rhoed ef i huno y dydd blaenorol.