Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CIII.


O PAID a chwenych, Gristion gwan,
Rhyw grefydd esmwyth ymhob man;
Rhag ofn terfynu d' unig oes,
Cyn rhoi dy ysgwydd dan y groes.[1]


CIV.


Y CEILIOG a ganodd,
Fe dorrodd y wawr,
Mae'n bryd ini ddeffro,
Y c'naeaf sydd fawr;
Mae gweision y Brenin
Ymhell ar y blaen,—
Awn ninnau ar eu holau
Trwy ddŵr a thrwy dân.[2]



CV.


MAE'R Efengyl ar farch gwyn
Wedi cychwyn,
Teithio mae trwy fro a bryn
Gan ymofyn
Am y rhai a brynodd E
Ar Galfaria,
Dont yn lluoedd o bob lle,
Haleliwia.[3]


  1. Alltud Glyn Maelor.
  2. Byddai hen gymeriad doniol o Lanbedr, Ardudwy, yn ledio hwn heb ganiatad ar ganol yr Ysgol Sul. Byddai raid i'r arolygwr edrych fod ganddo bennill arall yn barod, neu hwn roddai allan bob amser.
  3. Ledini Thomas Thomas neu "Twm yr Hwntw" hwn yn aml. Bedyddiwr oedd, ac yn Galfin o ran ei olygiadau. Gwrandawai bob pregeth ar ei draed, a byddai ei "Amennu" yn diaspedain drwy'r capel.