Prawfddarllenwyd y dudalen hon
CVI.
ON'D ydych chwi'n dywedyd
Fod eto bedwar mis,
Ac yna daw'r cynhaeaf
Toreithiog gyda brys?
"Dyrchafwn fry ein llygaid,"
Medd Iesu, Brenin nef,
Can's aeddfed ydyw'r meysydd,
Lle mae ei wenith Ef.[1]
CVII.
DAETH blwch yn llawn o berlau
I lawr o'r nefoedd wen,
Cyfiawnder a'i hagorodd
Yn llydan ar y pren;
Trugaredd redodd allan
A bywyd yn ei llaw,
Bydd myrdd yn canu am dani
Ryw fore ddydd a ddaw.[2]
CVIII.
DYMA Sabboth wedi gwawrio
Ar drueiniaid gwael y llawr,
Dydd i gofio angau Iesu,
Dydd ei adgyfodiad mawr,
Dydd o ryddid
Er rhoi cynnydd yn ei waith.[3]
- ↑ Unwaith, pan oedd Williams Pant y Celyn yn Aberdar, rhoddodd emyn allan fel arferol ar ol ei bregeth. Nis gellid cael ton arni i'w chanu, a chyfansoddodd yr uchod yn fyrfyfyr, a chanwyd hi gyda hwyl.
- ↑ Rhoddwyd ef allan yng nghapel Bont Fechan ("Engedi," Llanystumdwy, ar hyn o bryd), gan Mr. John Griffith, Chwilog Fawr.
- ↑ Evan Hughes, Talysarn.