Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CIX.


DAETH awel o Galfaria.
I chwythu gyda gwres,
Mae'r oerfel yn mynd heibio
A'r Haul yn dod yn nes,—
Yr egin yn blaendarddu
Hwy ddont yn aeddfed yd,
Ni chollir un a hauwyd
Draw yn yr arfaeth ddrud.[1]


CX.


A DDRYLLI di y gorsen
Sy'n ysgwydedig wan?
A losgi di y soflyn
Sy bron a mynd yn fflam?
O paid er mwyn yr Aberth
Fu ar Galfaria fryn,—
Lle bu yr Iesu'n dioddef,—
Bydd myrdd yn canu am hyn.[2]



CXI.


Os gofyn neb sydd yma
Beth yw'r gorfoledd mawr
Sydd gan y saint i fyny,
A chan y saint i lawr;
Y Tad sy'n gogoneddu
A'i gwmni gydag Ef,
Wrth weled afradloniaid
Yn dyfod tua'r wledd.[3]


  1. Rhoddwyd hwn yng nghapel Uchaf Clynog yn '59, mewn cyfarfod gweddi, gan yr hen Sion Jones, Tyddyn Du.
  2. Cafwyd gan hen wr o Glynog.
  3. Cafwyd gan Mrs. Ann Griffith, Treddafydd, Pen y Groes, hen wraig oedrannus iawn.