Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CXII.


WELE Sabboth wedi gwawrio
Ar bechadur gwael ei wedd,
I gael gafael ar y bywyd
Cyn ei roddi 'ngwaelod bedd;
Yno y byddaf fi ar fyrder,
Wedi cyrraedd pen fy nhaith;—
Dyro afael ar y bywyd
Bery i dragwyddoldeb maith.[1]


CXIII.


YN y cawell brwyn caed Moses
Yn yr hesg ar fin y dŵr,
Yn y ffwrn caed llanciau'r caethglud,
Yn y waredigaeth siwr;
Caeodd angel safnau'r llewod
Cyn i Daniel fynd i lawr,
A chyn bwrw Jonah i'r dyfnder,
Darparwyd un pysgodyn mawr.



CXIV.


WEL, dyma odfa newydd,
O Arglwydd, dyro rym,
I ymladd a phla calon,
A llid gelynion llym;
Mae llawer mil o bethau.
Am gael fy mhen i lawr,
Nid oes a'm ceidw'n unig,
Ond gallu'r Meddyg mawr.



CXV.


DEWCH adre, blant afradlon,
I Salem lawen lon,
Gadewch y moch a'r cibau,
Gwell seigiau sydd yn hon;

  1. Thomas Williams, gynt o Dy Capel Jerusalem, Llanberis.