Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cewch wisg i guddio'ch noethni,
Cewch fara peraidd flas,
Cewch delyn aur i ganu
A chanol golud gras.


CXVI.


MAE drws trugaredd heddyw,
Heb gael gan Dduw ei gau;
Mae Ei ei Hun yn galw,
O dewch i mewn bob rhai;
Cewch wledda gyda'r Iesu,
Yn llawen uwch y nen,
A chanu eich Hosanna,
I'w enw byth,—Amen.



CXVII.


CAPTEN mawr ein hiachawdwrieth,
Welaf yn y frwydr hon,
Holl elynion ei ddyweddi,
Yn gorfod plygu ger ei fron;
Plant afradlon sy'n dod adre,
A fu 'mhell o dir eu gwlad,
Y rhai fu'n fudion sy'n clod fori
Duw, am iachawdwriaeth rad.[1]

Wele'r Iesu, pen rhyfelwr,
Yn dod i'r lan o Edom wlad,
Ei wisg yn goch, ei fraich yn ymus,
A'r ddraig yn glwyfus dan ei draed;
Am yr hyfryd fuddugoliaeth,
Mi gana'm telyn fach yn awr,
Hyd nes delo'r hyfryd fore
Y caf fi ganu'r delyn fawr.[2]


  1. Morgan Rhys, Capel Isaac, sir Gaerfyrddin.
  2. David Williams, Llandeilo Fach. Dyma oratorio. Diwygiad Mawr Beddgelert." Dywed rhai mai Morgan Rhys a'i piau.