Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dull arall, o'r rhan ddiweddaf,—

Am yr hyfryd fuddugoliaeth,
Mi gana ronyn ar y llawr,
Hyd nes delo'r hyfryd fore,
Ca'i ganu'n nhragwyddoldeb mawr.


CXVIII.


MILOEDD sydd yn canu'n beraidd,
Fry oddeutu'r Orsedd lân,
Fuont yma rhwng y tonnau'n
Ofni'r aent yn ddrylliau mân;
Daliwyd hwy, er maint eu hofnau,
Yn yr afon ddyfnaf, ddu,
'Nawr o flaen y Drugareddfa
Maent heb boen yn canu fry.



CXIX.


Y GALON garreg tynn yn llwyr,
Un dyner rho'n ei lle,
Ac ar ei llechau argraff llawn
O gyfraith bur y ne.[1].



CXX.


YMRWYMODD ar ein rhan
Yn nhragwyddoldeb pell,
Cymerodd blaid y gwan
Yn y cyfamod gwell;
Aeth yn ein lle a than ein baich,
A'i gadarn Hollalluog fraich.[2]


  1. A roed allan ar ddiwedd pregeth oddiar Eseciel xxxvi. 25—29, gan Wm. Morris, Cilgeran
  2. A roed allan gan John Philips. Bangor, ym Meddgelert.