Prawfddarllenwyd y dudalen hon
CXXI.
O AROS, Haul, heb fynd i lawr,
Aros uwchben y gwersyll mawr,
Tra fyddo etifeddion gras
Yn ymlid ar y gwaedlyd faes.[1]
CXXII.
BYDD miloedd yn rhyfeddu
Wrth weld eu henwau fry.
Yn ddiogel yn yr Arfaeth
Ddadglowd ar Galfari,
A'u beiau wedi'u maddeu,
A'u cuddio yno i gyd,
Pryd hyn bydd uchel ganu
Am waed Iachawdwr byd.
CXXIII.
LLIN yn mygu'n wan heb ddiffodd,
Corsen llawn o 'sigdod wy',
Wedi'i magu ymysg bleiddiaid,
Er mor ddiriaid oeddynt hwy:
Y blewyn lleia' all fy maglu,
Yr awel leia' a'm deil i draw,—
Rhaid cael Bugail Da i'm gwarchod
Tra bo'r llewod ar bob llaw.[2]
- ↑ A roed allan gan John Jones Talysarn ar ol pregeth fendigedig ar "A Haul Cyfiawnder a gyfyd i chwi," ym Meddgelert.
- ↑ A lediwyd yn hen gapel Dolwyddelen, gan D. Charles Caerfyrddin, wedi pregethu yn rymus ar "Lin yn mygu ni's diffydd."