Prawfddarllenwyd y dudalen hon
CXXIV.
Y SEREN fore ddaeth,
O cyfod, 'enaid caeth,
O'r twyllwch mawr;
Mae twrw plant y dydd,
A gadd eu traed yn rhydd
Yn llawenhau trwy ffydd
Yng ngoleu'r wawr.
CXXV.
UN o'r hen angylion hynny
Oedd yn Gethsemane gynt,
Wedyn drannoeth ar Galfaria
'N dyst o'r boeth ofnadwy hynt;
Tybed nad oedd yma heddyw
'N gwrando uwchben y llwyddiant mawr,
Ac yn canu gyda ninnau
Yn ein gwledd with gofio'r awr?
Gweled ffrwyth y frwydr honno
Wedi ei selio ar heddwch byw,
Ac yn hardd flaguro yng Nghymru
Oddifewn i winllan Duw;
Os oedd yma, diau iddo
Gludo'n dagrau tua'r nef,
Fel rhyw ernes deuwn ninnau
I glodfori gydag ef.[1]
CXXVI
WITH fynd i lawr i'r afon,
Ni phrisiaf wawd na 'stwr,
- ↑ Efan Dafydd, o sir Aberteif, yng Nghymanfa Llangeitho.