Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Roedd Iesu Grist ei hunan.
Yn un o wyr y dŵr.[1]


CXXVII.


EDIFEIRWCH! gair estronol,
Dieithr yng nghyfrolau'r llawr,
Nid oedd swn na son am dano
Yma cyn y codwm mawr;
Camwedd roddodd iddo'r enw,
Pechod roddodd iddo sail,
Pechod ymddangosodd gyntaf
Ymddangosodd yntau'n ail.[2]



CXXVIII.


BETH yw'r symud sy' ar y dodrefn?
Chwilio am yr arian sydd;
Perlau'r Iesu sydd yn gorwedd
Yn y llwch ers llawer dydd;
Yn lle damnio pentewynion,
Haeddant fod yn uffern dan,
Gwisg a gwledd sydd i'r afradlon,
Deuwch gaethion, seiniwn gân.[3]



CXXIX.


DAETH bore'r adar man,
Ar dan i foli Duw,
Yn awr mae'r haul a'r hyfryd hin,
Ar rai o'r werin wiw,

  1. Canai J. R. Jones o Ramoth y pennill hwn yn aml pan yn bedyddio ei ddeiliaid yn afon y Parc, Llanfrothen.
  2. Y Parch. William Roberts, Amlwch. Cafwyd gan Mr. Hugh Lewis, Bron y Fuches, Dinorwig, Arfon.
  3. Adroddwyd gan Mr. Morris Thomas, Swan, Clynog.