Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fe ddaeth y Jubili
A braf yw'n bri a'n braint,
Cawn fynd i dre ar fyr o dro
I seinio gyda'r saint.



CXXX.


MAE enwau'i blant i gyd,
Gan Iesu yn y nef,
Ni chollir un o'r rhain,
Tra paro'i fywyd Ef;
Fe arddel ei aelodau mân
Ar ol i'r ddaear fynd ar dan.



CXXXI.


MAE Seion wan yn gruddfan am y wawr,
Bydd hon cyn hir yn fam i dyrfa fawr;
Mae'r arfaeth rad a'r dwyfol waed yn un,
A gair y llw i gyd am gadw dyn.[1]



CXXXII


ER twylled yw yr awr,
Mi wn y tyrr y wawr
Ar Seion wiw;
Ac fe ddaw lluoedd maith.
O bob rhyw lwyth ac iaith,
I 'mhoffi yn y gwaith
O ganmol Duw.[2]


  1. Griffith Jones, Clwt y Bont, Arfon, mab i Dafydd Sion, Garreg Wen, Llanberis, awdwr "Mae Seion wan yn gruddfan dan y groes."
  2. Dafydd Evans, Morfa, Aber Aeron. Hoff emyn Dr. O. Thomas.