Sef Iesu Grist ein hanwyl Geidwad,
'Rhwn ddioddefodd angau loes;
Yn awr mae'n eistedd mewn gogoniant.
Yn eiriol drosom ddydd a nos.
Gogoniant iddo yn dragwyddol,
Am iddo 'ngharu cyn fy mod,
Minna' ymdrecha i'w garu yntau,
Ac i roddi iddo'r clod,—
Bendigedig fyddo ei enw
Am iddo farw, i ni gael byw;
Mi ddymunwn ei wasnaethu
A'm holl galon tra bwyf byw.[1]
CL.
DYMA syndod penna'r nef,—
"Yr Arglwydd fynnai'i ddryllio Ef;"—
Efe a'i clwyfodd ar y groes
Daeth hedd i lawr trwy'i ddwyfol loes.
CLI.
'DOES arnaf ddim e'wilydd proffesu
Y Gwr a fu'n chwysu'n yr ardd,
Er cymaint mae dynion'n ei wawdio,
'Rwyf fi'n ei weled yn hardd;
O'r carchar y cefais ollyngdod,
Nid aiff y diwrnod o'm co,
Gogoniant, medd f'enaid, drwy'r holl fyd,
Fe safodd fy mywyd i, do.
CLII.
FE orfoleddodd uffern.
Pan fwytwyd ffrwyth y pren,
Fe grynnodd ei sylfaeni,
Pan anwyd Brenin nen:
- ↑ Ellinor Roberts, Llain Wen Uchaf, Llanberis, luniodd y pum pennill.