Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y chwys yn Gethsemane,
A'r gwaed ar Galfari,
Yw'r perlau gwerthfawrocaf,
A fedd ein daear ni.


CLIII.


ER cymaint gŵr oedd Moses,
Mae'r Iesu'n fwy, medd Duw;
Mae Moses wedi marw,
Mae Iesu heddyw'n fyw;
Ni welais ail i Iesu,—
Mae'n medru trin pob clwy;
Ac am ei fod mor fedrus,
Ffarwel i Moses mwy.[1]



CLIV.


RHYFEDDOD welodd Moses—
Y berth yn llosgi'n dân,
Yn para heb ei difa,
Yn tyfu fel o'r blaen.
Mwy rhyfedd gweled Iesu,——
Preswylydd mawr y berth,
Yn faban yn y preseb,
Heb arian ac heb werth.



CLV.


RHYFEDDOD gweled Isaac
Ar ben Moriah draw,
Ac Abram wrth yr allor
A'r gyllell yn ei law;
Mwy rhyfedd gweled Iesu
Yn rhwym dan law ei Dad,
A'r cleddyf yn ei ystlys,
Yn marw yn ei waed.


  1. Alltud Glyn Maelor.