Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHYFEDDOD gweled Joseph
A'i frodyr o un fryd,
Heb gofio'r hen gamweddau,
Ond maddeu 'r rhain i gyd;
Rhyfeddach gweled Iesu
Yn derbyn dyn i'w gol;
A ddarfu gynt ei werthu
Am ryw bleserau ffol.

RHYFEDDOD oedd i Judas
Fradychu Iesu Grist,
'Rol iddo weld ei wyrthiau
Yn gwella cleifion trist;
Mwy rhyfedd gweld pechadur,
Fu'n gwrando am ei waed,
Yn barnu'i fod o 'n aflan
A'i sathru dan ei draed.[1]


CLVI.


Enw'r Iesu sydd yn werthfawr,
Ynddo mae rhyw drysor im';
Enw'r Iesu yw fy mywyd—
Yn ei enw mae fy ngrym;
Yn ei enw mi anturiaf
Trwy bob rhwystrau maith ymlaen,
Yn ei enw mae fy noddfa—
Am ei enw bydd fy nghan.



CLVII.


Fy sylfaen fawr dragwyddol
Yw'r Crist fu ar y groes;
Ni cheisiaf ond ei hunan
Tra pery dyddiau f'oes;

  1. Adroddwyd gan Mr. Edward Williams, "y Bugail," Garn Dolbenmaen.