Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A rhag im' fyned byth ar goll,
Gwisg fi a'th holl arfogaeth,
A nertha f'enaid yn Dy ffydd,
Nes caffwy'r fuddugoliaeth.[1]


CLXIV.


Pwr yw'r Gwr a welaf acw,
Yn rhwym gan dyrfa'r gwaew-ffyn,
Yn cario croes ar gefn briwedig
Tua phen Calfaria fryn?
Iesu hawddgar,
Ydyw'r Gwr sy'n cario'r groes.

I farwolaeth rhwng dau leidar
Rhoddwyd Iesu, Prynnwr byd,
Methodd daear ddal'r olygfa—
Crynnodd drwyddi oll i gyd;
Gwisgo gorchudd,
Ddarfu'r heulwen ganol dydd.

Er y dirmyg a'r gwaradwydd
Gafodd Iesu ar y llawr,
Fe enillodd fuddugoliaeth
Ar holl allu'r fagddu fawr,—
Llyncodd angeu,
A bu'n dranc i wanc y bedd.

'Nawr mae'n eistedd ar ei orsedd
Mewn gogoniant yn y nef,
Ac mae agoriadau uffern
A marwolaeth ganddo E,
Haleliwia!
Dyma Frenin ini'n Frawd.[2].


  1. Gwaith hen wr 85ain mlwydd oed o'r enw John Parri, o Biwmaris, ar ol bod yn orweddiog am lawer o fisoedd yn 1803.
  2. John Davies. Bryn Dauionyn, Eglwys Bach