Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I mewn ar frys i'r gwersyll,
I'w gynnull, f'enaid, dôs,
A chofia lenwi'th omer
Cyn iddi fynd yn nos.


CLXXIII.


COFIO'R wyf yr awr ryfeddol,
Awr wirfoddol oedd i fod;
Awr a nodwyd cyn bod Eden,
Awr a'i diben wedi dod;
Awr wynebu ag un aberth,
Awr fy Nuw i wirio'i nerth;
Hen awr anwyl prynnu enaid,
Awr y gwaed pwy wyr ei gwerth?



CLXXIV.


BYTH ni welsid y ddynoliaeth,
Mewn uwchafiaeth yn y nef,
Oni bae yr Iawn a roddwyd
Ac a gafwyd ynddo Ef:
Byth ni chawsai gras a chariad
Ddangos eu teimladau'n llawn,
Na thrugaredd sychu'i dagrau,
Ond a thywel coch yr Iawn.



CLXXV.


YMILITH ideau gwynion
Oedd yn fy Nuw erioed,
Roedd un idea borffor
Na wyddai neb ei hoed;
Ni wyddai meibion Gwynfa
Ddim am ei lliw na'i llun.
A dyma'r hên idea
A ga'wd i gadw dyn.[1]


  1. Alltud Glyn Maelor yw awdwr clxxi.—clxxv.