Prawfddarllenwyd y dudalen hon
CLXXVI.
PAM y duodd haul goleuni?
Pam 'r aeth twllwch dros y byd?
Pam y crynnodd nerth sylfaeni,
Daear gadarn oll i gyd?
Pan yr holltodd creigiau cedyrn?
Y daeth meirw o'u beddau'n fyw?
Am fod Crist mewn cnawd yn marw
Er codi dyn i ffafor Duw.[1]
CLXXVII.
MAB unig anedig, un odiaeth,
'Run fath ei naturiaeth a'r Tad,
'Run oedran, 'run anian, 'run enw,
'Run ddelw—hardd loew, 'run wlad;
'Run iaith, yr un waith, yr un ethol,
'Run 'wyllys i'w bobol gael byw.
'Run nerth. yr un gwerth. yr un gwyrthiau,
'Run geiriau, 'run deddfau, 'run Duw.[2]
CLXXVIII.
MINNAU glywais yn fy ngwlad
Son an Iesu,
Ei fod Ef ar fam a thad
Yn rhagori:
- ↑ Daniel Jones, Gwrecsam.
- ↑ Ei awdwr oedd John Roberts, Lleiniau Hirion, Llannalhaiarn, yr hwn oedd yn cadw ysgol yn hen gapel Llithfaen. Lluniodd ef ar hen camfa ger y capel ar awr canol dydd, tra'r plant yn chwareu o'i amgylch. Yr oedd newydd fod yn gwrando ar John Elias yn pregethu yn nerthol ar "Berson Crist." ym Mhwllheli. Aeth i fermdy Gwnus i adrodd y pennill newydd wrth yr hen wraig, ac aeth y ddau i orfoleddu wrth ganmol y Mab. Honno a'i cofiodd.