Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O fy enaid, cwyd i foli
Am y gwaed roed ar y bryn,
Gwaed a olcha fy nihechodau,
Ac am canna oll yn wyn;
Gad im brofi
O rinweddau gwaed y groes.

Gwaed y groes a ddichon buro
Y gydwybod waethaf gaed,
A chymodir y gelynion
Mwyaf, drwy rinweddau'r gwaed:
Dyma destyn
Per ganiadau llu y nef.[1]


CLXXXVI.


EDRYCH i Galfaria fryn
Wna i mi wylo,
Gweled Iesu a'i ddwy law.
Wedi eu hoelio,
Ar ei ben mae coron ddrain,
Bigau hirion,
Yn ei galon bicell fain,—
O mor greulon!



CLXXXVII.


UN ergyd eto ar ben y ddraig,
Drwy Had y Wraig sy'n eiriol,
Ac am fod Iesu ar ein rhan—
I'r lan, i'r lan, yn wrol.[2].


  1. Gwen, merch y Parch. John Jones Talysarn, biau y tri. Adroddwyd gan Mrs. Owen, Bryn y Coed, Talysarn.
  2. Cafwyd y ddau uchod gan Ioan Eifion, Talysarn