Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CLXXXVIII.


MAE'R gwaith i fyned rhagddo,
Er gwaethaf lid y ddraig,
I fyny daw'r adeilad
Mae'r sylfaen ar y Graig;
Safadwy ydyw'r Sylfaen,
A chadarn ydyw'r Graig,
Cydymaith i bechadur
O hyd yw Had y Wraig.[1]


CLXXXIX.


Haws fuasai i'r brithyll bychan
Lyncu Mor y De'n ei ddig,
Haws fuasai i'r 'deryn egwan
Gario'r Andes yn ei big;
Haws fuasai i'r morgrugyn
Yrru'r Alps o'i flaen i'r môr,
Nac i ddyfais dyn na diafol
Ddadychwelyd arfaeth Iôr.



CXC.


PAN siglo'r bryniau cedyrn,
Pan gryna'r ddaear faith,
Pan losgo'r byd yn ulw,
Pan ferwo'r moroedd maith,
Pan elo'r haul yn dywyll,
Pan syrthio sêr y ne,
Fe saif arfaethau'r nefoedd
Yn gedyrn yn eu lle.


  1. Rhoddwyd hwn allan mewn cyfarfod gweddi o flaen pregeth y Parch. Richard Owen, y Diwygiwr. gan John Hughes (teiliwr). Ty Newydd, Aberdaron. Pregethai yn Tan y Foel. Rhiw.