Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A phawb yn sgwenu hwyr a bore
Y molawdau goreu i lawr,
Byth ni phrisiant etifeddiaeth.
'Run o blant yr Arfaeth fawr.[1]


CXCVI.


HOSANNA, Haleliwia fydd,—
Tôn newydd byth a llawn;
Am angau'r groes a roes yn rhydd
I'n cael yn ddedwydd iawn.

Am gyflawn brynedigaeth rad,
Am gariad Tri yn Un;
Ac am y grâs, ragorol rodd,
Achubodd euog ddyn.[2]



CXCVII.


GOGONIANT byth a fo ar gan,
I'r Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glân;
Fel gynt yr oedd, y mae, y bydd,
O oes i oes, o ddydd i ddydd.



CXCVIII.


PETH rhyfedd iddo roddi ei serch
Ar ferch yr hen Amoriad,
A dryllio'i Fab ar Galfari,
I'w phrynnu o'i chaethiwed.



CXCIX.


CLYW lais dy Grist,—clyw ochain trist,
Clyw waedd dy Frawd yn marw,
Clyw hoel a'r ordd yn tyllu'r ffordd
Trwy'i gnawd i'r croesbren garw.


  1. Hywel Gruffydd, Beddgelert.
  2. J. R. Jones o Ramoth.