Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CC.


Mi glywais newydd, do,
Mi ai delais ar fy nghô,
Nis gwn pa lun;
Fod Iesu maddeu bai,
Yn hoffi trugarhau,
I'r pennaf un.[1]


CCI.


BRYNWR byd—o'i gryd i'w groes,—
Anwyl Iesu Grist!
Ddioddefodd lawer loes,—
Anwyl Iesu Grist!
Ger ei groes,—er beiau ri',
Plediwn farw Calfari,—
Dyna sail ein bywyd ni,—
Anwyl Iesu Grist!

BYRDWN:—
Iesu Grist! Iesu Grist!
Dyna sail ein bywyd ni.—
Anwyl Iesu Grist!



CCII.


IESU, Ceidwad pechaduriaid,
Ddaeth o'i gariad at y tlawd,
Ac a dalodd ein holl ddyled
Pan yn dioddef llid a gwawd:
Moliant iddo,
Iesu yw ein ffyddol Frawd.[2]



CCIII.


O! DIOLCH byth i'r Arglwydd Dduw,
Am roddi hedd i ddynol ryw,
Ac edrych ar bechadur gwael,
Yn ei drugaredd hyfryd hael.


  1. Clywyd gan hen wr o'r Gaerwen, Mon.
  2. Evan Williams, Graig Lwyd, Dinorwig, Arfon.