Prawfddarllenwyd y dudalen hon
CCIV.
Mi welaf ar Galfaria fryn,
Ffynnon a olchodd fyrdd cyn hyn,
Ac yno rhedaf fel yr wyf,
I olchi ynddi'm fiaidd glwyf.[1]
CCV.
Er anifeiliaid filoedd,—
Teg yrroedd gynt a gaed;
Wyn, teirw, pob naturiaeth,
Rhywogaeth oreu o waed;
Ei hunan pan offrymodd
Aberthodd Iesu byw,
Y llyncodd môr dioddefaint
Lyn tân digofaint Duw.
CCVI.
Ar Galfaria, rhwng dau leidar,
Wele frwydyr fwya 'rioed,—
Yr Oen yn fud heb air o'i enau,
Yn sathru'r dreigiau dan ei droed;
Lladd euogrwydd, clirio'r euog,
Prynnu hwn o gaeth yn rhydd,
Maeddu'r Cadarn, marw ei hunan,—
Codi'n fyw y trydydd dydd.
CCVII.
GOGONIANT i Fab Duw o'r nef,
O'i anwyl gorfi briwedig Ef
Daeth gwerthfawr ffrwd o fywiol waed.—
Bywyd i'r meirw a rhyddhad.
- ↑ Evan Williams, Graig Lwyd, Dinorwig, Arfon.