Prawfddarllenwyd y dudalen hon
CCXII.
Y MANNA pur, a'r Golofn dân,
Yr Arch, a'r Drugareddfa lân,
Y dŵr o'r graig. i'w gael bob pryd,—
Fy Iesu yw y rhain i gyd.[1]
CCXIII.
CRIST yw'n hanwyl Fugail ffyddlon,
Mae Fe'n dirion nos a dydd.
Fe a'm dwg i o'r anialwch
Ac o'r dryswch oll yn rhydd;
Ar ei 'sgwyddau dof tuag adrau,
I gorlannau'r defaid mwyn,
Mae'n coleddu y mamogiaid,
Mae'n mynwesu'r gweiniaid wyn.[2]
CCXIV.
BARA Duw yw'r Arglwydd Iesu.
Hwn o'r nef a roddwyd ini;—
Bywyd ydyw i farwolion—
Iachawdwriaeth colledigion.[3]
CCXV.
FE welwyd Craig mewn dalfa
Gan wyr y gwaew ffyn,
Fe welwyd Craig yn hongian
Ar ben Calfaria fryn:
Rhoed Craig mewn craig i orffwys
Hyd fore'r trydydd dydd,
Er gwaetha'r maen a'r milwyr.
Daeth Craig o'r graig yn rhydd.