Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Yn uwch na'r donn yn afon angau,
Yn uwch na dreigiau uffern lás,
Yn uwch na'r haul yn nhir y bywyd,
O anchwiliadwy olud gras!
CCXIX.
Bu, bu
Dywyllwch ar ein daear ni,
O'r chweched hyd y nawfed awr;
Bydd canu am yr oriau hyn
Gan dyrfa fawr ar Seion fryn,
Oll yno'n hardd a'u gynau'n wyn.[1]
CCXX.
DAETH Samson i fyny o dre Gaza,
Er gwylied ei phyrth yn y nos,
Daeth Iesu i fyny o Bozra,
Er iddynt ei ladd ar y groes.[2]
CCXXI.
WATH fynd i'r ardd i chwysu,
Fe ddwedodd—"Daeth yr awr,"
I dalu dyled Seion,
Er bod ei swm yn fawr;
I'r ddeddf fe roes foddlonrwydd,
Ac i gyfiawnder Iawn,—
Fe dalodd Iesu'r cwbwl,
Cyn tri o'r gloch prydnawn.[3]