Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CCXXVI.


DAETH Crist o'r bedd, gwir awdwr hedd, yn Iawn,
Tystiolaeth glir gan dystion cywir gawn;
Ac yn y byd o hyd, er pob rhyw haint,
Ei fywyd pur a sêlir yn ei saint.


CCXXVII.


TAIR, tair,—
Arglwyddes feichiog dda eu gair,—
Arfaeth, Addewid, hefyd Mair,
A'u tymp i esgor daeth 'run awr;—
Un mab a anwyd, tair gwraig rydd,—
Mae'n rhaid y bydd o'n Rhywun mawr.



CCXXVIII.


MAE llawer yn rhyfeddu
Pam 'rym yn canu c'uwch,
Neshau'r mae'r hyfryd fore
Pan gaiff Seion ganu'n uwch;
Haleliwia
I'r Gŵr fu farw ar y pren.



CCXXIX.


CRIST ddaeth mewn natur dyn,
Yn wael ei lun a'i wedd.
Bu farw dros rai caeth,
O'i fodd yr aeth i'w fedd;
Am hynny byth. bendithiwn Dduw,
Can's marw wnaeth i ni gael byw.[1]



CCXXX.


YN wyneb Crist llewyrcha i maes,
Y ddelw decaf oll o'i ras;

  1. Daniel Jones, mab Mr. Owen Jones, y Fachwen, Dinorwig, pan yn bymtheg oed.