Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CCXXXVIII.


I'R Drindod yn yr Undod,
I'n tirion Arglwydd Dduw,
Cyd-unwn oll mewn moliant,
Am iddo'n cadw'n fyw;
Mawr seiniwn Haleliwia,
Hyd entrych nefoedd wen;
Boed iddo barch a moliant
Oddiwrthym byth,—Amen.[1]


CCXXXIX.


FE ysgrifennodd Iesu
Ei destament i gyd,
Pob sill a gwaed ei fynwes,
Mae'n rhaid ei fod yn ddrud;
Bu farw'r Testamentwr,
Mae'r testament mewn nerth,
O Gristion, cwyd dy galon,
'Does undyn wyr dy werth.[2]



CCXL.


FE gladdwyd credo Moses,
Yn ol y waew-ffon;
Diffoddwyd mellt deddf Sina
A gwaed y ffynnon hon;
Yr hen ysgrifeniadau
Oedd yn ein gofyn ni,
Ddilewyd bob llythyren
A rhudd waed Calfari.[3]



CCXLI.


YNG Nghalfaria mae fy mywyd,
Yng Nghalfaria mae fy hedd,
Yng Nghalfaria byddaf farw,
Yng Nghalfaria boed fy medd;

  1. Cadwaladr Owen, Dolwyddelen.
  2. Alltud Glyn Maelor.
  3. Alltud Glyn Maelor.