Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bod, fel Job, yn amyneddgar,
Peidio dwedyd geiriau mawr,
Yr Arglwydd sydd yn codi i fyny,
Yr Arglwydd sydd yn tynnu i lawr.[1]


CCLII.


'Rwyf wedi cyfeiliorni,
A hynny lawer tro,
A rhodio llwybrau dyrus,—
Ti wyddost Arglwydd,—do:
O, maddeu, maddeu 'mhechod
Atolwg Arglwydd Dduw,
A dwg fi lwybrau Seion,
Os cennad y ca'i fyw.



CCLIII.


PAN bwy'n edrych ar y llwybrau
Gwyrgam gerddais yn y byd,
Rwy'n rhyfeddu fod trugaredd
Wedi'm harbed yma cy'd;
Diolch am arbediad bywyd,
Diolch an drugaredd râd.
Diolch byth fod daear maddeu
Hyd yr awrhon dan fy nhraed.[2]



CCLIV.


An lan afon yng ngwlad Babel,
Dyma'r man 'rwyn trigo'n awr,
Gweld fy nhelyn ar fy helyg,
Methu'r wyf a'i chael i lawr;
Disgwyl 'rwyf o odfa i odfa,
Y derfydd y caethiwed hyn,
Ac y gwelir f'enaid eto.
Yn seinio cân ar Seion fryn.


  1. Siarl Marc, yr hen bregethwr dall o Leyn.
  2. Hoff bennill y Parch. Thomas John. Cilgeran.