Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwyddoniadur Cyf 01.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hanner can mlynedd yn dyfod allan o'r wasg; sef, o'r flwyddyn 1782 hyd 1832; ac y mae yn cynnwys dau cant a saith o gyfrolau o'r rhai y mae un ar ddeg a deugain yn cael eu rhoddi i gerfluniau. Y mae yn llawer iawn mwy rhydd oddi with syniadau anffyddol ac anghristaidd na'r gwaith y mae wedi ei sylfaenu arno, ac i fesur mawr wedi ei dynu o hono; ac y mae cyfrolau y blynyddoedd diweddaf o hono agos yn hollol felly. Ond nid ydyw yn ddim amgen na chwech ar hugain o eiriaduron mawr ion ar wahanol destynau, a rhai o honynt yn ymestyn i liaws o gyfrolau—megys yr un ar feddygaeth, i dair cyfrol ar ddeg; ac felly, o angenrheidrwydd, pa beth bynag a ddywedir am ei ragoriaeth, y mae yn anhylaw iawn i'w ddefnyddio.

Ond y mae dechreuad y cyhoeddiadau gwerthfawr a elwir "Cyclopedias," neu "Encyclopedias"—y rhai ag y mae y gair "GWYDDONIADUR" wedi ei gymmeryd yn y Gymraeg i'w dynodi i'w briodoli, nid yn unig, nac yn benaf, i eiriaduron HARRIS na CHAMBERS, nac i'r "Encyclopédie" Ffrangcaeg, y rhai, fel y gwelsom, a gyfyngid agos yn hollol i'r gwyddorion a'r celfyddydau; ond i ddosbarth arall o eiriaduron, a elwid yn hanesyddol. Un o'r rhai cyntaf, ac un o'r rhai rhagoraf o'r cyfryw cold, "Lo Grand Dictionnaire Historique," gan LOUIS MORERI, a ddygwyd allan yn gyntaf yn Lyons, yn 1674, yn un gyfrol fawr unplyg. Bu yr awdwr farw yn 1680, ya 37ain mlwydd oed, pan yn prysur barotoi ail argraphiad mewn dwy gyfrol. Helaethwyd y gwaith hwn, wedi marwolaeth yr awdwr, gan y naill olygydd ar ol y llall, fel ут oedd yr ugeinfed argraphiad, yr hwn a gyhoeddwyd yn Paris yn 1759, yn cynnwys deg o gyfrolau mawrion unplyg. Fe'i cyfieithwyd yn fuan i holl brif ieithoedd Ewrop, ac yr oedd yn mhob man yn cael lledaeniad anghyffredin. Yn y fl. 1701, cyhoeddwyd cyfieithiad o hono, gyda chwanegiadau gwerthfawr i'r iaith Saesneg, "The Great Historical, Geographical, Genealogical, and Poetical Dictionary," &c., mewn dwy gyfrol fawr unplyg, gan JEREMY COLLIER. Yn y flwyddyn 1705, daeth cyfrol arall allan gan COLLIER, a elwid yn "Adgyflenwad," ac yn 1721, daeth allan bedwaredd cyfrol, a elwirl yn "Attodiad." Y mae COLLIER yn adnabyddus fel un o'r gwŷr Eglwysig a elwid Nonjurors, y rhai, yn y chwyldroad yn 1688, a wrthodasant gymmeryd y llw o ffyddlondeb i'r brenin WILLIAM III., ac a ymffurfiasunt yn blaid esgobyddol ar wahân oddi wrth yr Eglwys Wladol Cyssegrwyd COLLIER yn esgob i'r blaid hono yn 1714 —a bu farw yn 1726. Ysgrifenodd lawer iawn, ac y mae yr amrywiol gyfrolau o'i draethodan, ei "Hanes yr Eglwys yn Mhrydain," ac yn neillduol ei ysgrifeniadau yn erbyn llygredigaeth ac anfoesoldeb y chwareudai yn ei ddyddiau, yn parhau yn brof. ion pendant o'r gallu mawr oedd yn eiddo iddo fel y cyfryw. Y mae y geiriadur hwn yu dwyn tystiolaeth amlwg i'r un peth. Am flynyddoedd lawer wedi ei gyhoeddiad cyntaf, fe'i hystyrid yn gwbl anhelgorol braidd yn mhob llyfrgell o ddim gwerth; ao y mae yn parhau yn drysorfa gyfoethog o wybodaeth ar y testynau neillduol sydd dan sylw ynddo. Yn y flwyddyn 1677, fe ddlygwyd allan yr argraphiad cyntaf mewn dwy gyfrol unplyg; ac yn 1683, fe gyhoeddwyd "Adgyflenwad" mewn dwy gyfrol gyffelyb; ac yn 1698, ail argraphiad, wedi ei gywiro, a'i helaethu, a chydgorphori y chwanegiadau a'r gwaith gwreiddiol, mewn pedair o gyfrolau mawrion unplyg o'r "Lexicon Universale." Ond ni a roddwn yr enwad yn y Gymraeg:—"Geiriadur Cyffredinol, yn cynnwys Hanesiaeth gyssegredig a chyffredin yr holl Genhedloedd, ac yn mhob Oes; Amseryddiaeth hyd y dyddiau presennol; Daearyddiaeth hen a diweddar; Achyddiaeth y prif deuluoedd yn mhob gwlad, wedi eu chwilio allan o bob cofrestr; yn gystal a Chwedloniaeth, Defodau, Arferion, a holl Hynafiaethau y cyn-oesoedd wedi eu tynu allan o ffynnonellau ieithyddiaeth; yr Adroddiad cyflawnaf am y Gwyr enwocaf o ran athrylith a dysgeidiaeth, heb law am enwau, natur, a phriodoliaethau Anifeiliaid, Llysiau, Mŵnau, Meini, a Gemau.' Awdwr y gwaith oedd JOHN JAMES HOFFMANN, dysgawdwr Groeg yn gyntaf, ac wedi hyny hanesyddiaeth, yn Mhrifysgol Basle, yn Switzerland. Ganwyd ef yn Baale, yn 1635, a bu farw yno yn 1706—heb fod unwaith erioed, meddir, allan o'r ddinas. Y mae y gwaith hwn, hyd y dydd heddyw, yn cael ei ystyried yn nodedig o werthfawr; ac yn neillduol felly yn nghyflawnder, a manylder, a chywirdeb, ei erthyglau daearyddol ac achyddol. Ond yn gymmaint a'i fod wedi ei ysgrifenu yn yr iaith Ladin, ni chyrhaeddodd byth yn mhellach na'r ail argraphiad a nodwyd genym, yr hwn a gyhoeddwyd yn Leyden, yn 1698.

I'r un dosbarth a'r ddau ddiweddaf, ond yn fwy o natur lenyddol a bywgraphiadol, ac i fesur mawr yn beirniadu gwaith MORERI, y perthyna y "Dictionnaire Historique et Critique"—"Geiriadur Hanesyddol a Beirniadol" gan BAYLE, Ganwyd yr