Tudalen:Gwyddoniadur Cyf 01.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AALAR, un o arweinyddion gweinidogion y deml, a meibion gweision Solomon, y rhai a ddaethent i fyny o Thelmeleth a Thelharsa, taleithiau yn ymherodraeth Babilon, i Ierusalem 1 Esdr. v. 36. Gwel CARLATHAR

AARIM. Gwel HARIM.

AARON, [אַהֲרֹן, uchel neu athraw], mab hynaf Amram, fab Lefi, o'i wraig Iochebed, ferch Lefi. Yr oedd efe yn frawd i Moses a Miriam; oddeutu tair blwydd hyn na'i frawd Moses, ac o ddeutu saith miwydd, fel y bernir, yn iau na'i chwaer Miriam: Exod. vi. 20; a vii. 7; I Cron. vi. 1-3. Efe a anwyd o ddeutu'r flwyddyn c.c. 1574; neu, yn ol amseryddiaeth Hales, c.c. 1730, un flwyddyn cyn i Pharaoh gyhoeddi ei orchymyn creulawn am ddistrywio plant gwryw yr Hebreaid. Cyfarfyddwn â'i enw gyntaf yn hanes y cyfymweliad hynod rhwng yr Arglwydd a Moses, pan ymddangosodd Duw iddo yn y berth danllyd, tra yr oedd efe yn bugeilio praidd Iethro, yn Horeb. Un o esgusodion Moses, neu ei wrthddadleuon rhag derbyn y genadwri bwysig i waredu ei gydgenedl o'r Aipht oedd, nad oedd efe yn wr ymadroddus, ond mai safndrwm ydoedd, a thafottrwm; ond yr Arglwydd a chwalai yr wrthddadl hono o'i eiddo trwy ei adgofio mai awdwr holl beiriannau natur oedd efe, yr hwn a'i hanfonai, gan sicrhau y byddai efe gyda'i enau, ac y dysgai efe iddo yr hyn a ddywedai: a thra yr oedd efe eto yn ceisio ymwrthod a'r genadwriaeth, dywedai yr Arglwydd wrtho fod ei frawd Aaron wedi ei ddonio yn helaeth a'r cymhwysder a farnai efe mor angenrheidiol, ac y gallai efe lefaru yn ei enw, a throsto ef: Exod, iv. 10-16. Y mae yn ymddangos ddarfod i Aaron briodi gwraig o lwyth Iudah, o'r enw Elischa, neu Elisabeth, yn ystod deugain mlynedd absennoldeb Moses yn nhir Midian; o'r hon y ganesid iddo bedwar o feibion, sef Nadab, Abibu, Eleazar, ac Ithamar: Exod. vi. 23-25. Mewn ufudd-dod i orchymyn yr Arglwydd, acth Aaron i'r anialwch i gyfarfod ei frawd Moses; ac wedi deugain mlynedd o ysgariad, hwy a gyfarfuant au gilydd mewn serchogrwydd mawr yn Horeb, lle y mynegodd Moses i Aaron y genadwriaeth bwysig a dderbyniasai efe gan Dduw; ac yna, hwy a ddychwelasant yn nghyd at eu cenedl orthrymedig; ac wedi cyunull eu holl henuriaid, Aaron a gyflwynodd ei frawd i'w sylw, ac a'i cynnorthwyodd i egluro iddynt, ac argymhell i'w hystyriaeth a'u cymmeradwyaeth y genadwri a ymddiriedasid iddo gan Dduw eu tadau: Exod. iv. 27-31. Yn yr holl orchwylion dilynol i hyn, o gyfymweliad cyntaf Moses â Pharaoh byd onid aeth meibion Israel trwy y Mor Coch, ymddengys fod Aaron gyda'i frawd Moses yn barhaus o'r bron, yn ei gynnorthwyo a'i galonogi; ac ni chrybwyllir unrhyw weithred wahaniaethol o'r eiddo ei hunan; a pharhaodd y cydweithrediad yma rhyngddynt hyd farwolaeth Aaron. Yr oedd Aaron a Hur yn bresennol gyda Moses ar y bryn, tra yr oedd efe yn edrych ar Iosuah a meibion Israel yn ymladd â'r Amalecinid; a pharhaodd y ddau i gynnal ei freichiau blinedig fyny nes i'w pobl ennill y fuddugoliaeth yn llwyr: Exod. xvii, 10-12.

Gellir meddwl fod y bobl yn cyfrif Aaron fel eu penaeth, tra yr ydoedd Moses yn absennol yn y mynydd i dderbyn llechau y gyfraith gan Dduw; ac wedi blino gan hir absennoldeb eu blaenor mawr, ymgynnullasant at Aaron, a cheisiasant ganddo ddarparu delw weledig iddynt i gynnrychioli eu Duw, fel y gallent ei addoli ef trwy y cyfrwng hwnw, megys yr addolai yr Aiphtiaid eu duwiau trwy gyfrwng y cyfryw ddelwau. Amlygai Aaron gyminaint o wendid ffydd yn yr amgylchiad profedigaethus yma fel nas beiddiodd wrthsefyll eu cyfeiliornad; ond mewn cydsyniad a'u cais, efe a gymmerth y tlysau aur a offrymid ganddynt, ac a wnaeth o honynt ddelw llo, neu darw ieuanc-cyflelybrwydd yr eilun-dduw Apis, yr hwn oedd yn Memphis, ac a addolid trwy wlad yr Aipht yn gyffredinol. Ond er argraffu ar eu hystyriaethau mai i fod yn arwyddlun o'r gwir Dduw y gwnelsai efe y ddelw hon, gofalodd Aaron am gyhoeddi gwyl i Iehofah y dydd canlynol; ac ar y dydd hwnw, ymgynullai y bobl i gadw yr ŵyl, yn gyffelyb i'r modd y cadwai yr Aiphtiaid eu gwyliau i Apis, trwy fwyta, ac yfed, a chwareu, a dawnsio, a bloeddio. Yn y cyfamser, anfonid Moses i waered o'r mynydd, a llechau y gyfraith ganddo, y rhai a ysgrifenasid â "bys Duw;" a'r rhai hyn a daflwyd ganddo, fel eu torwyd, pan y gwelodd pa beth oedd yn myned yn mlaen yn y gwersyll. Ar ei ail ymddangosiad, töwyd y lluaws gan gywilydd, a chrynent o flaen ei gerydd llym, fel na feiddiai neb yngan gair yn erbyn ei waith yn dinystrio yr eilun y buasent mor ddiweddar yn ynfydu o'i flaen. Lladdwyd llawer o'r bobl a'r cleddyf ac â'r haint, o herwydd, eu camwedd yn y peth hwn: Exod. xxxii,

Yn ystod ei hir absennoldeb yn y mynydd, derbyniasai Moses hyfforddiadau dwyfol o barth y sefydliad eglwysig—y tabernacl a'r offeiriadaeth—y rhai y dechreuodd efe eu rhoddi mewn gweithrediad yn fuan wedi hyny. O dan y trefniad newydd yma, yr oedd Aaron i fod yn archoffeiriad, a'i feibion a'i hiliogaeth yn offeiriaid; a'r holl twyth y perthynai iddo, sef llwyth Lefi, a neillduid i wasanaeth cyssegredig. Gan hyny,