Tudalen:Hanes Annibyniaeth ym Mhlwyf Ffestiniog.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

HANES ANIBYNIAETH

ganddo. Parodd hyny i gadeirydd Mr. Hughes golli ei dymer, a thorri y rheolau; trwy wneud felly llwyddodd er colli y ddadl, i enill mwyafrif dros ei ddyn ef." Bu Mr. Fairclough yn egniol iawn mewn ymdrech i dalu'r ddyled oedd ar y capel, a theithiodd lawer drwy'r wlad i gasglu ati, gan ei bod yn faich trwm ar yr Eglwys. Yn wir, bu rhaid iddi fenthyca gan Gymdeithas Adeiladu £240 ar y Capel. gweithredoedd yr hwn a roddwyd i'r Gymdeithas fel sicrwydd am yr arian a'r llog arnynt.

Yn yr argyfwng yma, sefydlwyd Cymdeithas Arianol Bethania" yr hon o'r dydd hwnw hyd y dydd hwn sydd wedi bod yn fanteisiol i'r eithaf Eglwys fel y cyfryw ac i bersonau unigol ynddi. yn ogystal ag i Eglwysi eraill o bob enwad yn yr ardal.

Yn Bethania, Tachwedd 24. 1847 y'.sefydlwyd, a phriodol ydyw rhoddi "ar gof a chadw enwau y rhai a ddechreuodd y gwaith da, fel y ceir hwynt yn Llyfr Cyfrifon Cyntaf y Gymdeithas. Llywydd William Rowlands, Fronlas. Is-lywydd: William Roberts, Shoemaker. Ymddiredolwyr: David Roberts, Trefeini; Humphrey Roberts. Caeclyd: Hugh Jones, Penygelli; Owen Rowlands, Fronlas. Ysggrifenyddion: David Williams, Fronlas. David Williams, Cwmbowydd. Trysorwyr: Lewis Thomas, Frondirion, a Pierce Jones, Four Crosses. Pwyllgor: John Evans, Tanyclogwyn: William Jones. Bethania: Robert Jones, Penygelli; John Jones. Conglywal: Ebenezer Jones, Blaenbowydd; George Penny, Maenofferen; John Edwards, Penrhos: Hugh Jones. Blaenbowydd; Ellis Edwards, Penrhos: William Jones. Blaen- bowydd; Evan Edwards Penrhos. Archwilwyr: Lewis W. Thomas, Y Siop. a John Roberts. Y Gôf

Ni chaniata gofod roddi y rheolau oll: rhoddir ychydig ddyfniadau a ddangosant fod i'r Gymdeithas ddiben deublyg, ac atebwyd y dibenion hyny yn achos canoedd lawer yn Bethania ar y naill law ac yn Eglwysi eraill yr ardal ar y llaw arall. Un diben oedd