dysgu yr iaith i hyn yr atebodd, y "Gwyddai ychydig o Hebraeg pan welodd y breuddwyd; ac mai y 12fed Salm a ganai, (yna adroddodd Richard yr holl Salm yn Hebraeg, yn rhugl, canys yr oedd ganddo ar ei gof,) a bod gan yr hwn a ymddangosodd iddo, pwy bynag oedd ef, lyfr Hebreig gyda nodau yn ei ymyl, a bod y delyn a welodd yn un fawr iawn, tebyg i un o'r hen delynau Cymreig o ran ffurfiad. Yr oedd ganddo braidd fwy o hoffder at yr Hebraeg nag un iaith arall, yr hyn, yn nghyda'i farf hirllaes, a barodd iddo gael ei alw yn fynych, The Welsh Jew."
Yr oedd y ddysgeidiaeth a gyrhaeddodd hyd yma, mewn gwahanol ieithoedd, yn rhyfeddod, ac ystyried yr annghyfleusderau dirfawr ag oedd ar ei ffordd—dim llyfrau priodol—dim dysgawdwyr—na dim amser ond a ladratai oddiar gwsg a'i orchwylion dyddiol. Ac fel yr oedd yn ddigon naturiol, gwrthwynebiad grymus oddiwrth ei deulu, yn enwedig ei dad a'i frawd hynaf, canys yr oedd iselder eu hamgylchiadau yn gosod rhaid arnynt hwy i weithio mwy na'u rhan, o herwydd ymlyniad Richard gyda'i lyfrau. Mynych yr arferent weinidogaeth greulonach tuag ato na geiriau chwerwon, pan y deuent. hyd iddo yn darllen,—ymosodent arno gan ei guro yn greulawn. Ond, er y cyfan, yr oedd ganddo y fath hoffder at ddysgu ieithoedd, ag a greodd ynddo benderfyniad anhyblyg a didroiynol i weithio yn mlaen, er yn erbyn y llif, nes drwy ei diwydrwydd, a'r dalent hynod oedd ganddo at y gorchwyl, y gorfuodd yr anhawsderau, ac y daeth yn Ddic Aberdaron, The Wonderful Linguist.
Tua y flwyddyn 1804, gwnaeth ei dad fordaith o Aberdaron. i Lerpwl, mewn llong fechan, a chymerodd Richard gydag ef i'w gynorthwyo. Y peth cyntaf a wnaeth pan gyrhaeddasant. yno ydoedd, chwilio am siop lyfrau. A darfu i'w ymddangosiad hynod yn y fath le dynu sylw rhyw rai, ac achosi iddynt ymchwilio i'w amgylchiadau, ac wrth ddeall ei fod yn meddu rhyw gymaint o wybodaeth am ieithoedd, darfu iddynt roi iddo ychydig arian; ac wedi hyny a'i hanrhegasant â nifer o lyfrau Lladin, Groeg, Hebraeg, &c. Yr oedd ganddo feddwl mawr o'r anrhegion hyn, ac ystyriai ei hun mor ffawdus o'u cael a phe buasai etifeddiaeth wedi dod i'w ran; yr oedd ganddo gofnodiad manwl o honynt, ond nid hir y mwynhaodd efe hwynt, canys wrth ddychwelyd adref cawsant dywydd tra anffafrol, gyrwyd eu llestr i'r làn gerllaw Llanaelhaiarn, yn sir Gaernarfon, ac fe'i llanwyd â dwfr, ac felly ei lyfrau oll yn mron a ddyfethwyd neu a gollwyd.