Yr oedd ef yn un hynod o anesmwyth; anfynych yr arosai yn yr un man yn hir, pa mor ddymunol bynag fyddai ei sefyllfa: felly, cyn pen haner blwyddyn blinodd ar ei fyd yma, er ei fod yn nghanol ei lyfrau, ac yn cael ymlid yr ieithoedd faint a fynai. A chan y crybwyllai yn fynych y dymunai yn fawr droi yn ol i'w hen wlad, anrhegwyd ef gan Roscoe â phum punt, er ei alluogi i gael ei ddymuniad; felly yn ddioed cy- merodd ei daith tua sir Gaernarfon, gan gario gydag ef amrywiol o lyfrau ag oedd wedi cael eu rhoddi iddo yn Lerpwl yn mhlith y rhai yr oedd Thesaurus Linguæ Sanctæ, gan Sanctes Pagninus, y Grammatica Arabica, gan Erpenius, Lyra Prophetica gan Bythner, a gweithiau gramadegol ereill. A chyrhaeddodd yn ddiogel i Borth-yn-Lleyn, lle y cyfarfyddodd â'i dad, yr hwn, meddai, pan ddeallodd fod ganddo ychydig arian ar ei helw i dalu iddo am ei gynnaliaeth, a'i derbyniodd yn lled groesawus. Ond pan ddarfyddodd ei dipyn arian, bu raid iddo droi i gynorthwyo John ei frawd i lifio coed i adeiladu cychod pysgota. Ond ewynai Richard ar ol hyn, nad oedd ei dad wedi eu defnyddio i'r dyben hyny, ond iddo eu gadael ar làn y môr yn Mhorthneudy, nes myned yn ddiwerth. gan bydrni.
Tra y bu Richard gartref y tro hwn, darfu iddo ef a John ei frawd gyfieithu "Commissiwn Crist i'w Apostolion," gan Archibald M'c Lean, i'r Gymraeg, yr hwn a gyhoeddwyd wedi hyny yn Nghaernarfon, dan olygiad Mr. Edmund Francis.
Ond nid hir y bu gartref na ddechreuodd hi o'r newydd. fyned yn ddrwg rhyngddo ef a'i dad o herwydd yr hen achos, sef, ei ymlyniad wrth ddysgu ieithoedd, a'r triniaethau creulawn a ddyoddefai gynt a adnewyddwyd: o herwydd hyny, ymadawodd eto a thŷ ei dad, a thros ryw gymaint o amser a gafodd achles gyda y Parch. Benjamin Jones, Gweinidog Ymneillduol yn Mhwllheli. Oddiyma cyfeiriodd drachefn i Lerpwl, ond ni chafodd gystal swcwr yno y tro hwn ag a gafodd y troion o'r blaen; felly y bu yn llawn trallod a blinder yno am yspaid o amser; ie, bu mor gyfyng arno nes y gorfu iddo werthu ei Feibl Hebreig, gyda Nodau, &c., ar ol yr hwn yr oedd ei alar mor fawr, fel y penderfynodd gymeryd taith i Lundain i chwilio am un yn ei le; ac hefyd i ymofyn am ychydig gyfarwyddyd yn y Galdaeg a'r Syriaeg, ac ni chollodd ddim amser i roddi ei benderfyniad mewn gweithrediad. I'r dyben hwn, cychwynodd tua'r brif ddinas, yn haf y flwyddyn 1807, a phecyn bychan ar ei gefn, a phastwn hir yn ei law, am yr hwn yr oedd darlunlen o'r ffordd ganddo; a'r
ychydig weddill o'i lyfrau wedi eu gwthio i'w wahanol log-