Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Bywyd Dic Aberdaron Twm o'r Nant.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ellau, &c. Wrth ymholi am Feibl Hebreig yma a thraw, daeth ar draws rhyw foneddwr, Dr. Collyer, yr hwn a'i hanrhegodd â Thestament Groeg. Ond fel y bu gwaethaf ei hap ni lwyddodd yn un o'r amcanion oedd ganddo yn myned yno; ac yn waeth na'r cwbl, methodd gael yno orchwyl na chynorthwy mewn un modd nac o un math.

Prysurodd Richard o Lundain, a chyfeiriodd tua Dover, gyda bwriad, mae'n ddigon tebygol, i fyned trosodd i'r Cyfandir, os llwyddai i gael ei gario. Ond er na chafodd ei amcan yn hyny, bu mor ffawdus yn Dover ag enill sylw Capt. Ford, Arolygwr llong-weithfa I y brenin, yr hwn a'i cymerodd i symud lludw yn y weithfa, ac a ganiatâodd iddo ei foreubryd, a chist i gadw ei lyfrau, ac a roddodd iddo ddau swllt a grot yn y dydd fel cyflog.

Un o'r pethau cyntaf a enillodd ei sylw yn Dover, oedd St. Georgia, llong Roegaidd, gyda dwylaw yr hon y bu mewn hir ymddiddan amryw weithiau, a dywedai iddo dderbyn. cryn lawer o hysbysrwydd ganddynt yn yr iaith Roeg ddiweddar, I

Gan fod Richard yn nodedig o ddiwastraff mewn bwydydd a gwisgoedd, ac na byddai yn arfer gwario ei arian am ddiodydd meddwol, fel y mae arfer rhai, yr oedd y cyflog a dderbyniai yma yn ddigon i'w alluogi, nid yn unig i dalu am ei gynnaliaeth, ond i roddi rhyw gymaint i Rabbi Nathan, yr hyglod. ddysgawdwr Hebraeg, am ei hyfforddi yn yr iaith hono, ac i brynu llyfrau angenrheidiol i'r dyben hwnw. Yr oedd yn amgylchiad dra hynod i weled dyn fel hyn, mewn gwlad estronol yn llafurio yn galed am ei luniaeth, ac yn treulio rhan fawr o'i enill i gyraedd gwybodaeth o hen ieithoedd. Bu yn y sefyllfal hon am dair blynedd, ac y mae yn ymddangos iddo eu treulio yn fwy dedwydd nag un yspaid arall o'i fywyd.

Yn y flwyddyn 1810 dychwelodd Richard o Dover i Lundain, pryd hyn cyflwynwyd ef i ystyriaeth y "Gymdeithas er taenu Crist'nogaeth yn mhlith yr Iuddewon," a thalwyd ryw gymaint o sylw iddo; ond os rhoddir pwys ar ei ddarluniad ef o bethau, ymddengys nad oedd eu caredigrwydd o fawr barhad, ond ei fod yn fuan wedi ei droi yn greulondeb a gormes; ie, i'r fath raddau nes y cwynai ei fod wedi ei wasgu i'r fath gyfyngder ac eisieu nes y bu raid iddo werthu ei lyfrau rhag newynu i farwolaeth. Ond fe ddylem gofio, mai un o ffaeleddau Richard oedd rhoi cam-olwg ar ddybenion ac ymddygiadau ei gyfeillion, yn neillduol os arferent un math o orfodaeth tuag ato.