Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Bywyd Dic Aberdaron Twm o'r Nant.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pan oedd wedi gwerthu ei holl lyfrau, a'i galedi wedi codi i'r man uchaf, daeth i'w feddwl amlygu ei sefyllfa i gymdeithas o'i gydwladwyr, ag sydd yn Llundain dan yr enw Cymdeithas y Cymmrodorion; a darfu iddynt dosturio wrtho a'i gynnysgaethu a modd i ddychwelyd i'w hen wlad.

Tiriodd yn ddiogel mewn llong fechan yn yr Abermaw; oddi yno cymerodd ei daith i Fangor, lle y darfu ei wybodaeth a'i fedrusrwydd rhyfeddol yn yr Hebraeg dynu sylw y diweddar Barchedig Richard Davies, yr hwn a'i cynnaliodd ef am chwe mis yno; ac yn ystod yr amser hwnw copiodd i'w Noddwr hynaws yr holl eiriau Hebraeg o Eirlyfr Lladin Littleton gydag amryw ddiwygiadau, yn ol Geiriadur Hebraeg Sanctes Pagninus, talfyredig gan Raphelengius.—Hoffai yn fawr bob amser wneyd cydnabyddiaeth i'w gymwynaswyr; yn gyffredin pan yr anrhegid ef â llyfr cynnygiai yntau lyfr arall yn ei le, neu fe roddai lun telyn a dynai, neu gopi o'r egwyddor Groeg neu Hebraeg a ysgrifenai. Ar ol hyn darfu i Mr. Davies a'r Parch. Samuel Rice gyd-dalu cost ei daith i Lerpwl drachefn, lle y cynnygiodd ei hun unwaith eto i dosturi ei hen ymgeleddwyr, y rhai gan ei ystyried bellach yn gryn ysgolaig, a amcanasant wneyd Argraffydd o hono, ac i'r dyben hyny anfonwyd ef i Swyddfa yn Water-street i gael ei addysgu, ond ar ol ychydig wythnosau o brawf, deallwyd na wnai byth Argraffydd, o herwydd ei fod yn rhy anhylaw at gelfyddyd mor fanylaidd; ond y mae yn ddigon tebygol mai nid dyna yr unig achos o'r siomedigaeth y gwir yw, yr oedd ei holl feddw! a'i duedd wedi eu troi ar ol ieithoedd, fel na byddai byth yn dawel na dedwydd pan mewn sefyllfa a fyddai yn attalfa iddo ddylyn ei duedd.

Ar ol hyn lluosogodd ei drallodion fwy-fwy; cwynai tra y bu yn gwneyd ei gartref gyda rhyw Wyddelod, ei fod wedi cael ei yspeilio o Ramadeg Caldaeg P. Martin, ac amryw lyfrau ereill, a bod y gweddill wedi cael eu taflu i'r heol trwy y ffenestr. Tua'r amser yma dechreuodd ysgrifenu gwreiddiau yr iaith Roeg, gan Casper Seidelius, gan eu troi o Groeg a Lladin i Groeg a Saesonaeg; ac yr oedd wedi myned mor bell a'r llythyren Chi pryd y dygwyd hwn oddiarno hefyd. A'r un modd lladratäwyd y geiriau Hebraeg a gopiodd o Eiriadur Lladin Littleton: ond, trwy y cwbl dyogelodd y copi o'r Beibl Hebraeg oedd ganddo, Gramadeg Arabaeg, gan Erpenius, a Geiriadur Groeg, gan Schrivelius. Ond cymaint fu ei gyfyngder ar ol hyn nes y gwystlodd y ddau flaenaf am ychydig sylltau, gyda y rhai y cyrhaeddodd Gaernarfon: lle y bu o dan yr