angenrheidrwydd i werthu yr olaf i gael ychydig at ei gynnaliaeth. Dan yr amgylchiadau hyn yr oedd ei amynedd bron a phallu; cwynai yn chwerw-dost o herwydd ei fod yn cael ei nacâu o un math o orchwyl i enill ei fara, er ei fod yn dyoddef gan newyn a noethni, a'r cyfan, meddai, o herwydd ei ymdrechion i astudio y Groeg a'r Hebraeg.
Ar ol hyn treuliodd amryw o flynyddoedd yn crwydro o'r naill fan i'r llall heb i ddim neillduol ddygwydd, heblaw ei fod fel arferol yn ymlid ar ol ieithoedd ac yn llawn trafferthion. O'r diwedd ymsefydlodd yn Magillt a chafodd ei gynnal yno. am o ddwy i dair blynedd. Dechreuodd ysgrifenu y Cydymaith i'r Ysgolor, gan Alecsander Rowley, yn Hebraeg, Groeg, a Seisonaeg: ond cwynai na chafodd ei orphen ddim pellach na'r llythyren Nun, a hyny o herwydd ei fod yn rhoddi i fynu mewn llety hynod o annymunol i ysgrifenu, gan y byddai yn ddibaid, braidd, yn cael ei aflonyddu gan swn y plant ag oedd gan y weddw, gyda yr hon y lletyai. Ond gan na chai y difyrwch o fyned yn mlaen gyda Rowley troes i ymddifyru gyda rhyw hen gorn hwrdd, a dyna lle bu wedi hyny yn gwneyd rhyw oernadau ar hyd y gym'dogaeth er mawr gythrudd ac aflonyddwch i bawb o'i amgylch. Ac wrth weled fod ganddo ryw fath o dast at fiwsig, darfu i ryw un ei anrhegu â French Horn; pan gafodd hwn, troes yr hen gorn hwrdd heibio; a bu mor ddyfal yn ei ymarferiad â'i offeryn newydd nes y daeth i allu chwareu rhyw gymaint o donau arno, ond mewn dull mwy nodedig am dwrw nag am fanylrwydd. Erbyn hyn yr oedd yn meddwl ei hun yn gryn chwareuwr, a thybiai y gallai enill ei fara gyda'i gorn, ac i'r dyben hyny gwnaeth ei ffordd tua Chaerlleon, lle y dygwyddodd fod y Cadflaenor Grosvenor newydd gael ei ethol yn farchog dros y lle, ac fel arwydd o orfoledd am oruchafiaeth yr oedd y seindorf (band) yn tramwy ar hyd yr heolydd, gan chwareu eu hofferynau yn y modd mwyaf medrus; ond er mor ogoneddus oeddynt, tybiodd Richard y gallai, â'i gorn, ychwanegu at eu hardderchawgrwydd, ac yn ddioedd clywid ef yn
Chwythu dolef chwith ei dyli,
Aflawen oedd ei hacen hi.
Y fath annghydgord yn y beroriaeth a barodd gythrwfl nid
bychan ond y Cadflaenor, yn lle ymlid Richard, a'i galwodd ato, ac a ymddiddanodd âg ef, a chafodd y fath ddifyrwch yn ei atebion, nes y rhoddodd ryw anrheg hardd iddo,
a chaniatâd i chwythu ei gorn faint a fynai.