Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Bywyd Dic Aberdaron Twm o'r Nant.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

farf hirlaes, a gofyn iddo, Pa'm na bâi yn ei thòri? I hyn yr atebodd yn dra ffrom, "Ho! madam, pan ewch chwi yn farber cewch chwi roddi shave i mi." Dygwyddodd pregethwr gyfarfod âg ef, mewn siop lyfrau yn Lerpwl; cynygiodd y llyfr-werth wr iddo lyfr ar Geomancy, "Ho," ebai Richard, "dysgu dyweyd ffortun wrth gardiau y mae hwn, nid wyf yn hoffi dyweyd ffortun wrth gardiau, gwell genyf fi y planedau;" gofynodd y pregethwr iddo, A oedd yn tybied ei fod yn beth posibl rhag-ddyweyd ffawd dynion 'trwy y fath wyddoriaeth? Ni fu erioed beth hawsach na hyny," atebai Richard, "oblegyd nid oes ond ffortun neu anffortun am dani, ac y mae felly mor bosibl i chwi ddyweyd yn iawn ag ydyw i chwi fisio.

Er fod Richard, yn ddiamheuol, wedi cyrhaedd llawer iawn o wybodaeth ieithyddawl, ac wedi darllen llawer o'r awdwyr penaf, hen a diweddar, eto, o herwydd amrywiol achosion, nid yw yn hawdd gwybod helaethrwydd gwirioneddol ei gyrhaeddiadau. Trwy ei ddyfal olrheiniad o ieithoedd tramor, ymddengys iddo i raddau mawr golli ei archwaeth at ei iaith enedigol, er ei fod yn abl a rhugl ynddi mewn ymddiddanion cyffredin â'i gyd-genedl. Ac nid oedd y Seisonaeg, er y cwbl, ond megys iaith estronol iddo ef, ac nid heb lawer o anhawsder y dysgodd yr hyn a wyddai o honi, a hyny, y mae yn debygol, am nad ymarferodd â hi yn ieuangach; felly nid rhyfedd ei fod yn ei hysgrifenu yn lled anmherffaith, neu fod y Saeson yn edrych ar ei gynygiadau i gyfansoddi ynddi, fel yn debygol yr edrychai un o'r hen Roegiaid neu Ladiniaid ar gynygiadau ysgrifenwyr diweddar yn yr ieithoedd hyny.

Dywedir y gallai Richard ymddiddan mewn Pedair-ar-ddeġ o wahanol ieithoedd! A sylwyd arno yn fynych, y byddai yn parhau yr ymddiddan yn yr iaith y dechreuid ymddiddan âg ef, oddieithr fod ereill yn troi i un arall yn gyntaf. Ond un o'r pethau mwyaf nodedig yn ei nodweddiad yw, nad oedd efe wedi dal nemawr iawn o'r materion y traethid am danynt yn yr holl luaws llyfrau amrywiaethog a ddarllenodd efe! ARWYDDOCAD GEIRIAU, A CHYFANSODDIAD IEITHOEDD, oedd holl wrthddrych ei ymofyniad! Y dygwyddiad canlynol a brawf hyn:—

Dr. Parr, aelod dysgedig o Brif Ysgol Rhydychain, a ddygwyddodd alw ar un o gyfeillion Richard, pan yr oedd Richard ei hunan wrth law, a meddyliodd ei gyfaill y boddlonid ei ymwelydd dysgedig yn fawr trwy gael ymddiddan â pherson mor hynod. Gan hyny, Richard a ddygwyd i'w bresenoldeb, a hysbyswyd natur ei ymgyrhaeddiadau; yr olwg hynod oedd