Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Bywyd Dic Aberdaron Twm o'r Nant.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arno a darawodd y Doctor à syndod ar y cyntaf, ond wedi i hyny fyned ymaith, gofynodd iddo amryw ofyniadau yn y Ffrangeaeg a'r Eidalacg, y rhai atebodd efe gyda'r parodrwydd a'r diniweidrwydd a berthynai yn neillduol iddo ef. Yna gofynwyd iddo, a oedd efe yn deall Lladin a Groeg; ac wedi iddo ateb yn gadarnhaol, ceisiwyd ganddo ddarllen brawddeg yn Homer: Richard yn ddiatreg a roddodd ei law yn ei fynwes, ac a'i gwthiodd hi i lawr i drigle yr hen brydydd enwog, ac a'i tynodd allan o'r dyfnderau, ac a'i cynygiodd i'r ymwelydd fel y dewisai frawddeg o hono; ond dymunwyd arno ef agor y llyfr yn rhywle, a darllen y frawddeg a gynygiai i'w sylw gyntaf. Yn ganlynol, efe a'i agorodd, ac a ddechreuodd ddarllen ryw linellau yn yr Iliad, gyda llawer o arafwch a chywirdeb; ac fel yr elai yn mlaen gwnelai lawer o sylwadau synwyrlawn ar yr ymadrodd, y rhai a ddangosent wybodaeth drwyadl o'r iaith, ac a synasant y bonedddig dysgedig yn fawr. Yna dymunwyd arno gyfieithu yr hyn a ddarllenasai, ac efe a wnaeth hyny yn ei Seisonaeg arferol, yn araf a gochelgar, ond gyda'r fath gywirdeb ag oedd yn profi ei fod yn deall y synwyr yn berffaith, can belled ag yr oedd cystrawen yr iaith yn myned tuag at hyny. Yna cymerodd yr ymddiddan canlynol le:—

Gof. Da iawn Richard; yr ydych wedi cyfieithu yr ymadroddion hyn yn bur dda. Attolwg, a ddarllenasoch chwi erioed brydyddiaeth Homer?

At. Do, fe ddarfum.

Gof. A pha beth ydych chwi yn ei feddwl am gymeriad Andromache?

At. (Gwedi aros ychydig, gofynodd), Andromache?

Gof. Ie, Beth ydych yn ei feddwl am gymeriad Andromache?

At. (Gwedi arosiad arall), Ymladdfa o ddynion ydyw.

Gof. Ie, ie; hyny yn ddiau yw tarddiad yr enw: ond beth ydych yn ei feddwl am Andromache, gwraig Hector?

A. Nid wyf fi yn gwybod dim am hyny.

"Yn ddiau," ehe'r ymwelydd, dyma y dygwyddiad hynotaf a gyfarfum âg ef erioed. Er fod y dyn hwn yn berffaith wybodus o'r iaith, nid yw yn ymddangos fod ganddo y drych-feddwl lleiaf am destyn a sylwedd yr hyn a ddarllenodd."

Gwedi i'r gŵr bonheddig fyned ymaith, gofynwyd i Richard pa fodd na roddodd efe ateb mwy rhesymol.

Atebodd yn hollol ddifater, "Meddyliais ei fod yn gofyn i mi yn nghylch y gair, ac nid yn nghylch y ferch." Pan

ofynwyd iddo beth efe oedd yn ei feddwl am y Doctor, ei