Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Bywyd Dic Aberdaron Twm o'r Nant.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

atebiad oedd, "Yr wyf yn ei ystyried yn un o'r rhai callaf yn y fyddin ddu."

Ar achlysur arall, pan ddygwyddodd yr ymddiddan fod ar natur ieithoedd, yn nghyd a'r ffordd oreu i'w dysgu, efe a roddodd, nid yn unig brawf o helaethrwydd ei wybodaeth ieithyddol, ond hefyd o'r parodrwydd gyda yr hwn y medrai ddefnyddio y wybodaeth hòno.

Un o'i gyfeillion a wahoddodd i giniawa amryw o'i gydnabyddion, y rhai oeddynt gan mwyaf, yn nodedig am eu dysgeidiaeth: ac wedi i'r wledd fyned trosodd, trwy gamsyniad un o'r gweision, agorodd y drws, ac er syndod i bawb ag oedd yn bresenol, daeth Richard i mewn. Gwedi i'r boneddigion syn edrych, dros ychydig, ar ei ymddangosiad hynod, a chael hysbysrwydd o'r camsyniad a'i dygasai i'w gwyddfod, gofynasasant iddo amryw gwestiynau yn yr iaith Ffrangcaeg, i'r rhai y rhoddodd efe yr atebion mwyaf cywir a pharod. Yna trowyd yr ymddiddan i'r Italaeg, ond dangosodd yr un rhwyddineb yn yr iaith hono drachefn. Yna trowyd i chwilio ei wybodaeth yn y Lladinaeg a'r Groeg: ac yntau a ddarllenodd ac a gyfieithodd rai ymadroddion yn yr ieithoedd hyny, er boddlonrwydd cyflawn i bawb ag oeddynt yn bresenol. Yna. un o'r boneddigion a gymerodd arno ei holi yn fwy neillduol, a chymerodd yr ymddiddan canlynol le:—

Gof. Gan eich bod chwi yn dysgu llawer o ieithoedd, attolwg, dywedwch wrthyf pa ffordd a fyddech yn ei gymeryd i ddysgu iaith?

At. Y mae hyny yn ol y byddo natur yr iaith yn gofyn.

Gof. Pa ffordd a gymerech i ddysgu un o'r ieithoedd diweddar?

At. Pe bâi yr Yspaenaeg, er enghraifft, cymerwn eir-restr o'r iaith hono, a chwiliwn pa eiriau a gawn yn cyfateb, neu yn tebygoli i eiriau mewn ieithoedd ereill ag y buaswn yn adnabyddus â hwynt, megys y Lladinaeg, y Ffrangcaeg, a'r Italaeg; a'r cyfryw eiriau a gawn felly a gymerwn allan o'r geir-restr, gan adael yn unig y rhai a berthynent yn wreiddiol i'r Yspaenaeg; ac yna, trwy gynorthwy Gramadeg, deuwn yn fuan yn adnabyddus â'r iaith hono.

Yr holl foneddigion a ganiatâsant mai ffordd gall a hynod dda oedd hono; a Richard a ymneillduodd wedi derbyn canmoliaeth pawb ag oedd yn bresenol.

Peth arall priodol i'w grybwyll yma ydyw, y cydfynedai â'i alluoedd mawrion i ddysgu ieithoedd, ryw duedd neillduol i

drosglwyddo y wybodaeth a gyrhaeddai ynddynt i ereill; byddai