Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Bywyd Dic Aberdaron Twm o'r Nant.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ystyried mai ei ddyledswydd arbenig oedd cynyg ei wasanaeth lle bynag y meddyliai y byddai yn dderbyniol; ond, o herwydd bod ei agwedd bersonol mor aflerw, ei foes-ddull mor anniwyll, a'i ffordd o gyfleu ei syniadau mor ddidrefn, nid hawdd y dygymai neb â'i addysg, hyd yn nod pe caniatêid y dichonai hyny fod yn adeiladol iddynt. Y siomedigaethau ag oedd efe yn eu cyfarfod yn feunyddiol yn y peth hwn, yn nghyda'r difaterwch a ddangosid at y cyfryw olrheiniadau o ieithoedd, oeddynt destynau gwastadol ei ofid; a mynych yr achwynai ei fod yn cael ei ddirmygu a'i erlid am ei ymdrechiadau yn achos dysgeidiaeth a gwirionedd. Nid wyf yn dysgwyl," meddai ef, mewn ychydig linellau a dderbyniwyd oddiwrtho, cael fawr o barch na chynorthwy yn Nghaernarfon, yn fy nghynygiadau i ddysgu Groeg a Hebraeg; canys yr wyf yn gwybod eisioes, fy mod yno yn cael fy ngwawdio a'm casau gymaint o'r achos hwnw fel yr ystyriant nad wyf deilwng o unrhyw gefnogaeth." Brydiau ereill ymddangosai fel pe buasai yn ofni ei fod mewn perygl o gael ei erlid ar gyfrif ei ddaliadau crefyddol. "Llawenhaf," meddai ef, fy mod yn cael fy nghyfrif yn deilwng i ddyoddef yn yr achos cyfiawn hwnw, dros yr hwn yr wyf yn foddlawn i osod fy einioes i lawr, pe rhoddid fy nghorff i'w losgi, neu y dedfrydid fi i ddyoddef y poenau creulonaf." Yr ymadroddion hyn a ddangosant ar unwaith y fath rym mewn penderfyniad, a gwendid mewn deall, ag sydd braidd yn anmhosibl eu cysoni â'r medrusrwydd a ddangosid ganddo yn ei ymchwiliadau i ieithoedd.

Pa fodd bynag, ni ddarfu y siomedigaethau aml, y cyfarfyddodd Richard â hwy yn ei ymdrechiadau i helaethu ei wybodaeth o'r ieithoedd, ei rwystro rhag gwneuthur pob peth a allai i gyrhaedd ei amcan, fel yr ymddengys oddiwrth amryw gyfansoddiadau o'i eiddo, yn y rhai y dangosir llafur a gofal dirfawr. Yn ychwanegol at yr hyn o'i weithiau a nodwyd eisioes, y mae Geiriadur Groeg a Seisonneg helaethfawr, yr hwn, gydag ychydig ddiwygiadau, a ellid ei wneuthur yn waith tra gwasanaethgar. Cyfrol arall o'i ysgrifeniadau a gynwys Gynnulliad o Ddyfyniadau Hebraeg, at yr hyn y mae wedi ychwanegu Geir-restr yn Hebraeg a Seisonaeg, yn nghyda Thraethawd byr ar Gerddoriaeth ac Aceniad yr Hebraeg. Ond y gorchwyl mwyaf llafurus o'i eiddo ydyw y Geiriadur Cymraeg, Groeg, a Hebraeg, y crybwyllasom am dano eisioes. Y gwaith hwn, fel yr ymddengys oddiwrth nodiad yn ei goflyfr, a gymerodd efe mewn llaw ar ddymuniad y Parch. Richard Davies, a

Fangor. Cynwysa yr holl eiriau Cymraeg sydd yn Ngeiriadur