Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Bywyd Dic Aberdaron Twm o'r Nant.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cymreig a Lladin y Dr. Ioan Davies. Bu Richard wrth y gorchwyl hwn uwchlaw deng mlynedd; dechreuodd ef yn y flwyddyn 1821, a gorphenodd ef yn mis Ebrill, y flwyddyn 1832. Ac wedi iddo edrych drosto, a'i gywiro, cychwynodd gydag ef, yn mis Awst dylynol, i Beaumaris, lle yr oedd Eisteddfod o Feirdd a Llëenyddwyr Cymreig i gael ei chynnal tua'r amser hyny; dywed iddo fyned yno gyda dysgwyliad y cawsai gefnogaeth i ddwyn ei Eiriadur trwy y wasg, ond ymddengys na ddarfu iddo lwyddo yn ei amcan. Ac wedi iddo grwydro ychydig o'r naill fan i'r llall ar hyd Gymru, dychwelodd yn ol i Lerpwl, lle y bu hyd y flwyddyn 1834.

Cwynai iddo gael ei drin tua'r amser yma yn annheilwng iawn gan un George Williams ag oedd yn byw yn Lerpwl; ymddengys fod Wm. Humphreys, lletywr Richard, yn ol o dalu ardreth ei dŷ; ac i George Williams anfon ceisbwliaid i gymeryd meddiant o'i eiddo, y rhai a symudwyd i Arwerthfa, ac yn eu plith cymerwyd holl lyfrau Richard, a'i ddwy hen delyn. Ac nid heb lawer o drafferth y gallodd attal eu gwerthiant; ond ni lwyddodd, er ei holl lafur a'i daerineb, i'w cael yn ol i'w feddiant, ond fe'i symudwyd i dŷ George Williams, ac yno y buont hyd y flwyddyn 1834; pryd y danfonodd ei gymwynaswr, John Copner Williams, Ysw., Mr. Marc Luc Lewis i'w gynorthwyo i ddyfod o'i drallodion, a llwyddodd i adfer yn ol i Richard y gweddill o'r llyfrau ag oedd heb eu dinystrio, yn nghyd a'r ddwy hen delyn, y rhai oll a ddanfonwyd yn ddyogel i Ddinbych.

Bu Richard yn lled wael ei iechyd am rai misoedd ar ol hyn, o herwydd y driniaeth greulawn a gafodd gan un James O'Hara, cyfaill i George Williams, yr hwn a daflodd ei ysgwydd o'i lle, ac a dorodd dair o'i asenau. Tra y bu y llyfrau, &c.. o'i feddiant, yr oedd fel dyn wedi colli pob llywodraeth arno ei hun, ni chaid dim o'i hen ond cablu a melldithio George Williams, (ac y mae yn digon tebyg mai hyny fu yr achos o ymosodiad O'Hara arno.) Cydmarai ef i Achme Dyezzar, Pacha d'Acre, yr hwn oedd yn cael edrych arno fel rhyw anghenfil rbeibus, hyd yn nod gan y dynion mwyaf creulawn a barbaraidd ag oedd yn y Dwyrain.

Ymadawodd Richard o Lerpwl gan fwriada treulio gweddill ei oes yn Ninbych, a dyna lle y bu am ryw gymaint o fisoedd yn edrych dros a chywiro ei Eiriadur; ond blinodd yn dra buan yno, a dychwelodd yn ol i Lerpwl; yn ddioed ar ol cyraedd yno, cyfarfyddodd â Mr. Benjamin Jones, (P. A. Mon) yr hwn

a'i dygodd i sylw Cymdeithas y Cymreigyddion yno; ac addaw-