HANES BYWYD, &c.
Ysgrifenwyd ef ganddo ei hun, yn ei 67 flwyddyn o'i oedran: at yr hwn
yr ychwanegwyd Sylwadau ar ei Nodweddiad, ei Waith, a'i Ffraethineb.
Yr wyf yn gyntafanedig i dad a mam, ac yn tarddu o genhedlaeth tu mam, trwy Prysiaid Plâs Iolyn, ac o du tâd, o hil trigolion Dyffryn Clwyd; sef Cawryd, Cadfan, ac ereill, hyd onid aethant fel yn wehilion y genedl hòno cyn i mi ddeillio o honynt; sef gan mwyaf, yn dylodion, ac yn annysgedig, o ran medru ar lyfrau, ond y medr oedd ynddynt yn ol natur gyffredin, fel creaduriaid ereill. Ac o lwynau pa ai fe'm dygwyd i'r byd, mewn lle a elwir Penparchell isaf, yn mhlwyf Llannefydd, ar dir ag a fu yn etifeddiaeth Iolo Goch, arglwydd Llechryd; sef ei dŷ ef oedd Coed y Pantwn; ac ef a'i feibion a gladdwyd yn monachlog Eglwysegl, gerllaw Llangollen.
Ond i ddyfod at fy addewid, mewn perthynas i'm treigliad yn y blaen: mae yn debygol ddarfod blino ar gwmpeini o'r fath ag oeddym ni, yn nhŷ fy nhaid a'm nain; fe orfu iddynt symud i'r naill gwr i'r tir, i le a elwir Coed Siencyn, lle buwyd gylch blwyddyn neu ragor, a hyny cyn y rhew mawr, pryd yr oedd y farchnad yn ddrud iawn; a'r Gwanwyn canlynol fe ddaethwyd i'r Nant, gerllaw Nantglyn, yn nghwr plwyf Henllan, lle mae lle a'i enw Cwm Pernant, neu Gwm Abernant, lle bu un Sion Parry, prydydd, ag oedd yn perchenogi y lle hwnw; a'r Nant sydd ganol o dri thŷ yn y cwm hwnw, sef y Nant isaf; ac yn y Nant uchaf yr oedd pobl a chanddynt fachgen ar yr un pryd ag yr oeddwn inau yn dechreu codi allan; ac oblegid eu bod hwy yn fwy ardderchog o ran pwer ac ablwch, gan nad oedd yno ond dau blentyn, ac o honom ninau ddeg, o barthed hyny fe y'm galwyd i yn TWM o'r NANT, ac yntau yn Thomas Williams.
Ond cyn neidio yn rhy bell o'r dechreu, yr wyf yn cofio, pan oeddwn ychydig dros dair blwydd oed, a myfi yn dyfod