gyda'm mam oddiwrth y pistyll o nol dwfr, ac yr oedd ar gornel y tŷ ysgol, cylch wyth llath o hyd, wedi ei rhoi i rwystro y gwynt godi y to; minau, yn lle dilyn fy mam, a aethym i ben uchaf yr ysgol, ac ewythr i mi frawd fy nhad, a'm tad-bedydd inau, a ddaeth heibio; minau a ddywedais, Edrych yma tada bedun lle'dw'i—Yntau, dan ddywedyd yn deg wrthyf, rhag i mi ddychrynu a thori ngwddf, a ddaeth ac a'm cymerodd i law:; ac ni chafodd fy mam ddim gwybod y pryd hyny, rhag iddi gael dychryn.
Gwedi hyny ar fyr, pan oedd fy mam wedi fy ngadael i a fy chwaer yn y gwely ein hunain y bore, a myned i ryw neges i dŷ cymydog, pan ddeffroais i, a dechreu galw Mam, heb neb yn ateb, mi a gymerais fy esgidiau am fy nhraed, a'm het am fy mhen, ac a aethym i dŷ fy nain yn noeth lymyn; ond fy nain a'm cymerodd, ac a'm rhoddes mewn gwely cynhes; a chyn pen hir dyma fy mam yn dyfod, wedi ammeu pa le gallwn fod, a'm dillad yn ei ffedog, a'r wialen fedw yn ei llaw. Fe fu yno ffwndwr fawr; un am fy achub, a'r llall am fy ngheryddu; ond beth bynag mi gefais fy hoedl gyd rhyngddynt. Yr oedd fy mam yn fy ngwarchae, fel ag y daethym yn y blaen; ni feiddiwn i na thyngu nag enwi Duw yn ofer: ec yn wir drwy drugaredd, fe safodd yr addysg hòno wrthyf byth.
Pan oeddwn yn blentyn, fe fyddai arnaf ofn Duw, ac ofn pe buasai i mi alw y cythraul y daethai fe i'm nol yn y funud.
Ond y'mhen ychydig, o ddeutu chwech neu saith mlwydd oedran, daeth ysgol rad i Nantglyn, mi a gefais fyned yno i ddysgu y llythyrenau; ond yr oedd llawer o sôn yn mysg hen wragedd cyfarwydd y wlad, y byddai iddynt fyned â'r holl blant i ffordd pan ddelent yn fawrion, oblegyd eu bod yn rhoi eu henwau i lawr; ond beth bynag, ni chlywais i un o honom fyned. Ond fe aeth y frech wên a myfi adref yn sâl; ac yn ol gwella o hono yr oeddwn yn rhy gryf i allu hyfforddio colli gwaith ac amser i fyned i'r ysgol; fe orfu i mi ddysgu gyru yr ychain i aredig a llafurio, yn hytrach na dysgu darllen; ond fe fyddai fy mam yn adgofio i mi yr egwyddor yn fynych iawn.
Yr oeddwn erbyn hyn cylch wyth oed; a'r haf hwnw mi a gefais fyned i'r ysgol drachefn am dair wythnos; a phan gyntaf y dysgais yspelio a darllen ambell air, mi a ddechreuais fyned yn awchus iawn i ysgrifenu; mi heliais gnotiau yr ysgaw i wneyd inc; ac a deilais hyny o ochrau dalenau llyfrau ag a ddown o hyd iddynt. Ond o ddamwain fe aeth siop yn y dref ar dân, ac a losgodd gan mwyaf oll, ond ambell ddarn
a safiwyd; ac yn mhlith y darnau llosgedig, fe gafodd fy mam,