am geiniog, ryw gynnifer o bapyrlenau llosgedig eu cornelau, ac a wniodd i mi gopi. Minau a aethym at y gôf i Waendwysog, ac fe ysgrifenodd yr egwyddor yn mhen uchaf y dalenau; a gofalus iawn a fu'm yn canlyn ar lanw yr holl bapyr, yn gyffelyb i ôl traed brain. Cefais bapyr ae inc, ac ambell gopi gan hwn a'r llall, hyd nes dysgais ddarllen Cymraeg, ac ysgrifenu ar unwaith.
Mi a ysgrifenais lawer, o gerddi, a dau lyfr Interlude, cyn bod yn naw oed; ac wrth weled fy athrylith i ddysgu, fe ddaeth hwn a'r llall i edliw i'm rhieni na baent yn fy rhoi i ddysgu Saes'neg; ond wrth hir addaw, hwy a'm gadawsant i fyned i'r dref i'r ysgol, lle bu'm am bymthengnos yn dysgu Saes'neg; a dyna'r cwbl. Fe orfu i mi ddyfod adref i wneyd rhyw beth am fy mara, a thu ag at gynnal y plant ereill.
Ond gan faint oedd fy awydd i ddysgu, mi a ganlynais arni o hyd. Pan ddown o'r maes i'm pryd bwyd, mi awn at y dresser, lle yr oedd drawer a phapyrau genyf, ac ysgrifenwn, er a allent hwy yn peri i mi gymeryd bwyd; a'm heithaf lawer pryd oedd cipio tamaid o frechdan yn fy llaw, a hyny gyda llawer o ddrwg, eisieu bwyta llaeth neu bottes, yn lle'r ymenyn.
Ond ar un tro, wrth yru'r wedd gyda'r clawdd, fe rwygodd, draenen, neu fieren, fy labed oddi wrth fy nghoat, fe'm tarawodd fy nhad, gan fy rhegu, ac edliw, mai gwell oedd genyf drin fy mhapyrau cl, na thori mieri oedd yn rhwygo fy nillad, ac yn tynu gwlan y defaid. Minau tan ysnwffian crio, ac yn addunedu os fi âi byth i'r tŷ, y llosgwni yr holl bapyrau. Ac yn fy ystyfnigrwydd y noswaith hono, mi losgais ryw becyn o ysgrifeniadau, o'r fath ag oeddynt hwy.
Byddai 'mam yn drwyn-gam dro,
'Ran canwyll oedd rhinc hono;
Fy nghuro'n fwy anghariad,
A baeddu'n hyll byddai 'nhad.
Minau'n ddig o gynfigen,
Cas o'm hwyl yn cosi 'mhen,
Ac o lid, fel gwael adyn,
Llosgi 'ngwaith, yn llosg fy nghwyn.
Yr oeddwn erbyn hyn cylch deg oed; ac er llosgi y llyfrau
yr oedd yr hen natur yn llosgi ffordd arall, am gael canlyn yn
mlaen ar drin papyrau; mi aethyn yn gyfaill a hen Gowper
gerllaw Nantglyn, yr hwn oedd yn fawr ei athrylith am ysgrifenu gwaith prydyddion, sef, cerddi, carolau, &c.
Ac ar fyr amser wedi, mi aethym ya gyfaill âg un arall, o'r
un fath natur am hel llyfrau; sef hen ddyn oedd yn Mhentre'r