Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Bywyd Dic Aberdaron Twm o'r Nant.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Foelas, yn darllen yn y capel y Suliau, ac yn clocsio amseroedd ereill. Cefais fenthyg hen lyfrau gan hwnw lawer gwaith. A thrwy bob peth a'u gilydd, mi ddysgais ysgrifenu yn lled dda yn y cyffredin o'r gymydogaeth hono.

Yn ganlynol mi aethym yn gyfaill âg un arall oedd yn brydydd, heb fedru darllen nag ysgrifenu; ac yr oedd ef yn un naturiol iawn o ran llithrigrwydd ei awen am y mesurau tri neu bedwar ban; efe a gyfenwyd Twm Tai yn Rhôs. Fe wnaeth i mi englyn, i'w roi mewn llyfyr oedd genyf o gasglad cerddi:

Twm Ifan wiwlan alwad,—yn bwer
A biau'r darlleniad;
Heliai gerddi i lenwi'r wlad,
Dew gywaeth, rhwng dau gauad.


Twm neu Thomas Evan, yr oeddwn i yn ysgrifenu fy enw, cyn myned y pymthengnos hyn i'r dref, i ddysgu Saes'neg; dyna'r pryd i'm cyfenwodd hwnw fi yn Thomas Edwards, oblegid mai Evan Edwards oedd enw fy nhad; ac na fyddai ond bastardiaid yn myned ar ol yr enw cyntaf.

Beth bynag, mi gefais yr anrhydedd o fod yn ysgrifenydd i'r hen brydydd; pan wnai ef gân, fe'i cofiai hyd nes deuwn ato. A phan fyddai yr hen wr yn dywedyd ei waith, mi godwn weithiau i ymresymu âg ef, oni byddai y peth yn well ffordd arall; braidd nad oedd ef yn eiddigeddu wrthyf, rhag fy mod yn gwneyd artaith ar ei waith ef.

Ond cyn fy mod yn ddeuddeg oed, fe gododd saith o lanciau Nantglyn i chwareu Interlude, a hwy a'm cymerasant inau gyda hwynt, rhwng bodd ac anfodd i'm tad a'm mam, i chwareu part merch; oblegid yr oedd genyf lais canu, a'r goreu ag oedd yn y gymydogaeth. Mi gefais y part i'w ddysgu, mewn cwrw gwahawdd i ddyn tylawd, yn y Fach yn agos i Felin Segrwyd, lle y telais y tair ceiniog gyntaf erioed am gwrw. Felly ni a ddysgasom chwareu yn ganolig yn ol y dull ag oedd y pryd hyny. Minau yn hogyn â'm holl ddymuniad ar ddarllen ac ysgrifenu, oeddwn yn athrylithgar iawn at ganu; mi wnaethym Interlude (ar y llyfr elwir Priodas Ysprydol, gan John Bunyan) braidd i ben; a hyny heb. wybod i neb; ond fe ddaeth rhyw lanc o Sir Fôn heibio y Nant, ac a gafodd letty; ac ef oedd ysgolhaig, a thipyn o'r natur ynddo; minau mewn caredigrwydd yn dangos pob peth iddo ag oedd genyf; yntau wrth fyned ymaith a ddygodd gan mwyaf o'm llyfyr. Braidd na ddigalonaswn y pryd hyny rhag prydyddu rhagor.