ngwraig i rwgnach fy mod mor fföl a chadw y ceffylau oddiwrth eu bwyd, a'm poeni fy hunan gyda phobl ereill. Felly y wraig a'm cynghorodd i ddyfod i lwytho brydnawn, pryd na byddai neb arall, y deuai hi gyda myfi i'm helpu; ac felly fu.
Ond wrth hir ddal at hyny, a hithau yn anystwyth, o herwydd y cyflwr yr oedd ynddo, i droi yn rowel y crane gyda throsolion heiyrn, mi a ddyfeisiais fachu y ceffylau wrth y rhaff i godi y coed i'w llwytho. Ac yn ol dysgu y ceffylau i dynu ac i ddal, yr oedd llwytho yn dyfod yn esmwythach i'r wraig a minau; a dyna'r bachu cyntaf wrth raff crane yn Nghymru ac yn Lloegr, ac yn ganlynol, yr oeddym yn cael llonyddwch a hwylustra, o ragor bod yn trafferthu yn mysg carriers ereill.
Rhyw dro ni a aethom i'r coed, ac a edrychasom am lwyth, beth a welwn yn ochr nant Gwaenynog, ond llawer o ôl traed ceffylau, ac arwydd fod yno drafferth fawr yn ceiso pren i fynu, ac yn lle iddo ddyfod, fe aeth yn mhellach i'r nant nag oedd yn y dechreu, a bu orfod i ddau garrier ag wyth o geffylau ei adael yno. Minau a synais beth uwchben y pren; ac yna, gyda fy nhri cheffyl a pheth ysgil, mi a'i tynais allan ac a'i llwythais, dim ond y wraig a'r ceffylau a minau.
A Chalanmai, yn mhen y ddwy flynedd, ni a ddaethom o'r Ale Fowlio, i ben isa'r dref, i ryw hen dŷ, ac mi ail adeiladais hwnw, ac a wnaethym ystablau a chyfleustra yno.
A'r haf canlynol yr oedd coed Bychymbyd i'w cario, a chyda rhei'ny y ba'm hyd ddiwedd y flwyddyn hono; ac yna fe ddaeth y clafr ar y ceffylau, a rhei'ny yn meirw, a'r gusb neu'r staggers i orphen, a chwedi hyny y rhent, a'r merchant oedd arno arian gwedi myned i'r môr; ac yno fe redwyd arnaf am yr ardreth; a'r pryd hyny mi a guddiais ddau geffyl, ac fe brynodd cyfaill y waggon, ac fe'm trystiodd am dani; ond fe werthwyd y cwbl oedd yn y tŷ; nad oedd genyf un gwely i orwedd, ond gwellt a rhyw faint o ddillad a brynodd un o'r cymydogion, a'u benthycio imi am dro. Yna nid oedd genyf ddim i'w wneyd, ond cymeryd rhyw ddynan, ag oedd ganddo dri cheffyl, yn rhanog, ei dri ef a'r ddau oedd genyf finau, a rho'i gwêdd ar gerdded; ac efe yn dweyd mai efe oedd biau hòno, ond ei fod ef yn talu i mi am help o lwytho. Felly cario yr oeddym i' Dref-ffynon, a manau ereill; ac yr oedd yno walch o ŵr boneddig, a elwid Mostyn o Galcoed, ac yr oeddwn yn ddyledus i hwnw am beth rhent am borfa; ond nid oedd ef yn medru cael craff ar y wêdd, gan ei bod yn enw un arall.