gario coed. Mi a fu'm yn cario haner blwyddyn o goed y Fron, sef coed Rug, oddiwrth Gorwen i Ruddlan: ac ambell waith i Gaer; ond yr oeddwn y pryd hyny drwy bob peth, gylch gwerth 300p. o'm heiddo fy hun. Ond fel yr oeddwn yn ffyrnig am wneyd fy ngoreu, mi ymroisym i gario coed o lawer o fanau, pan aeth cario Caer yn waeth.
Mi a fu'm yn cario coed mawr o Bathafarn, a Pharc Pysgodlyn, ac Euarth, a'r Plas Uchaf, Llanfair, ac o'r Gyffylliog, ac o Fychymbyd Bach a'r Fronheulog, a thrachefn o Waenynog, a Segrwyd Uchaf, ac o'r Ty'n y Pwll, ac amryw fanau ereill.
Ac ar ryw dro pan oeddwn, fel y brenin Dafydd ar nen ei dŷ, yn ysgafala gartref, fe ddaeth ewythr i mi frawd fy nhad, a'm tad-bedydd inau, i'r dref, wedi ei ddal i fyned i Ruthyn am 30p. o ddyled, ac yr oedd ef yn ddigon abl i dalu, ond cael peth amser; felly fe yrwyd am danaf, i fyned yn feichiai iddo ympirio y session. Felly yr aethym, a phan ddaeth yr amser, mi aethym âg ef at ei ŵr o gyfraith, yr hwn a'i daliasai, i Wrexham, a'r hwn a'i cynghorodd ef a minau, iddo dalu fel y gallai, y cymerai fe nhwy felly, yn swm bychan, a hyny a fu. Ond beth bynag, yr hen ŵr oedd yn oedi talu, a'r cyfreithwr yn rhoi cost bob tro, hyd nes aeth yr arian yn fwy; ac o'r diwedd fe dòrodd fy ewythr i fynu; ac yna fe ddaeth ataf finau dri o failiaid; minau yn lled gyfrwys-ddrwg yn fy meddwl, a ddywedais yn deg wrthynt, ac a'u meddwais, a'r un oedd a'r writ ganddo a ddaeth i'm gwely i at y gwas i gysgu a phan gysgodd ef, mi a hwyliais forwyn oedd genyf i nol ei bocket book ef i gael i mi'r writ; ac felly fu. Ac ar fyr mi ofynais i'r bailiaid, pa le yr oedd eu pwer i aros yno; ac yna hwythau gan edrych ar eu gilydd, a'r naill yn rhegu'r llall; a chwedi y cwbl, nid oedd ond troi cefnau y tro hwnw. Minau aethym at yr hwn yr oedd fy ewythr yn ddyledus, ac a gytunais i'm hewythr a minan dalu yr arian iddo ef fel y gallem; a hyny a fu. A'r cyfreithiwr a yrodd genad bwrpasol o hyd nos at y gofynwr drachefn, yntau a roddes ei law wrth ryw bapyr i'r Attorney gyda'r genad yn ol. Yna y cyfreithiwr a wnaeth writ â'i law ei hun, heb un Sirydd na Deputy wrthi, ond ei waith ef ei hun. Minau a insistiais am gael ei gweled, ac adnabum, ac ereill gyda mi, a'r hen writ yn tystio llaw y Sirydd. Beth bynag mi yrais gyd-rhyngwyf â'm cymydogion chwech neu saith o geisbyliaid i ffwrdd ar unwaith.
Rhwng fod cario o Gaer wedi myned yn waeth, a blinder