Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Bywyd Dic Aberdaron Twm o'r Nant.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac ofn y gwalch hwnw, mi a gymerais goed, gan un Sion Stoakes, o Groes Oswallt, a'r coed oedd ar dir Dolobran yn Swydd Drefaldwyn. Mi a gymerais y coed a'r fferm hefyd; ac yno yr aethym. Yr oedd yno fferm dda, a melin yn ei chanlyn, ac heb fod yn rhy ddrud. Mi a fu'm yno yn cario, ac yn hwylio i drin y tir, a gosod llawer o hono. Ond yn nghanol y cwbl, yr oedd y diawl ar waith, a chanddo dwrnel yno i bobi i mi fara lefeinllyd. Fe gafwyd yno writ yn fy erbyn; a minau a ddeallais, ac a ddaethym at gyf- reithiwr Dinbych, i ddeisyf heddwch am amser, fy mod mewn cychwynfa bywioliaeth yn y wlad hòno; yntau a ysgrifenodd i mi lythyr, ae yn bur fwyn wrthyf, a pheri i mi ei roddi â'm llaw fy hun i'r Attorney hwnw, y byddai pob peth yn burion.

Minau yn llawen a aethym ar gefn fy merlen adref; ac yno mi ystyriais beth a allai fod yn y llythyr; cymerais. bibell ac a'i dodais yn tân, ac a chwythais trwyddi i agoryd y sél; a phan agorais, yr oeddwn fal y rhei'ny â'r arian yn ngenau'r ffetanau, yr oedd yno yn gynhwysedig am i'r gwalch hwnw ganlyn arnaf, mai goreu y cam cyntaf, fy mod yn ddigon abl i dalu.

Pan welais beth oedd yno, mi a losgais y llythyr, ac a gymerais y carnau i'r Deheudir, at ŵr o Eglwys Fach, oedd gwedi pryau coed Abermarlais, yn Swydd Gaerfyrddin. Yr oedd yn Meifod, (y plwyf lle'r oeddwn) Exciseman o'r wlad hòno, cefais ddirection o'r ffordd ganddo ac ymaith â mi. Cychwynais ddydd Sadwrn, ac yno nos Sul, heb son wrth neb o'm teulu, ond with fy merch hynaf.

Ac ar ol lled gytuno am waith cario, am 6ch. y droedfedd o'r coed i Gaerfyrddin, daethym adref gyntaf gellais, ac a heliais y waggon ddwbl a'r ceffylau, wyth o honynt, ac a wnaethym y goreu o'm ffordd. Ac mi adewais y waggon fach yno, a'r teulu, dim ond y llanc a minau aeth y pryd hyny; yr oedd rhy-hwyr genyf gychwyn o Swydd Drefaldwyn. Ac yn ol cyrhaedd yno mi a gefais le da i'r ceffylau, a gadewais y llanc a hwythau yno, ac a ddaethym i nol fy ngwraig a'm tair geneth. Pacio rhyw betheuach, i'w rhoi gyda charrier i Fachynllaeth. Yr oedd genyf lonaid cŵd llestraid o lyfrau, a dillad hefyd mewn sachau. Ar o! i mi a'r merched ddyfod i ffordd, ni welais fyth ddim o'r eiddo, y waggon, na'r dillad, na'r llyfrau. Gyda llawer o flinder a thrymder calonau, ni a ddaethom oll i ben ein siwrnau yn lled iach. Ni a fuom ryw hyd heb gael lle i settlo i fyw, heblaw ar

aelwyd ereill; ond trwy ryw ragluniaeth fe ddarfu ein meistr