Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Bywyd Dic Aberdaron Twm o'r Nant.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y timber-merchant, gymeryd gate turnpike am 108p, yn y flwyddyn o rent, y ni i gael arian y gate at ein bywioliaeth, a settlo y rhent wrth gario. Buom felly yn dechreu bwrw ein henflew yn rhyfedd, a minau yn cario coed mawr iawn, na welwyd ar olwynion yn y wlad hóno mo'u cyffelyb, nac yn odid o wlad arall, am a glywais i. Llawer o goed a lwythais, ac aethym i ben eu siwrneu; rhai yn 100 troed- fedd, a 150, a 200, yn un darnau; a'r mwyaf oeddynt yn ei alw brenin-bren, oedd yn 244 troedfedd. Yr oedd genyf dri-phar o olwynion yn cario hwnw; y waggon oedd â dau fraich cryfion ar ei hyd, a rowl ar y canol, a'r trydydd pâr o'r tu ol yn cyd-gario, fel pe buasai ond pedair olwyn. Ond wrth ddyfod i'r coed i lwytho y pren hwnw, fe gododd pobl y wlad, o'r llanau a'r ffyrdd, fel pe buaswn yn y wlad yma yn chwareu Interlude; a llawer o'r bobl gyfarwydd yn dywedyd na lwythwn byth mono, na ddaliai y taclau ddim i godi y fath bwysau. Yr oedd ef 45 troedfedd o hyd, a chwedi ei ysgwario yn lan; minau a godais y crane uwchben ei flaen ef, ac fe'i cododd y ceffylau ef yn esmwyth; ac yna rhedais y pâr olaf mor belled ag y medrwn dano; ac yna symud y crane at ei ben bôn, a deisyf ar y segurwyr oedd yno neidio ar y gynffon; ac yna codi'r bôn, a'i lwytho ar y waggon; ac yna gyru yn mlaen ac ail settlo yr olwynion olaf; yna myned i'r ffordd, ac i Gaerfyrddin, heb gymaint a thori link tres. Ond wedi myned i'r dref, at borth Heol y Brenin, a'r ceffylau yn nwbl, ac yn llonaid y porth, a thalcen y pren yn taro yn yr arch, dyna luoedd o bobl y farchnad yn dechreu ymgasglu o'm cwmpas, ac yn tyngu nad awn byth y ffordd hòno; minau wedi synu peth a gefais gan rai oedd yno, trwy addaw yfed atynt, fy helpu i facio yr olwynion yn eu holau; ac felly, trwy fod amryw yn taro llaw at y peth, mi a'i cefais hi yn ol; a chwedi hyny, ni a aethom, dri neu bedwar, i yard yr Ivy Bush, tŷ tafarn, lle yr oedd crystiau coed (yslabs) ag a gawsom eu benthyg, a mi a'u gosodais hwynt o flaen yr olwynion olaf, yn glwt. i godi rhei'ny fal y byddai i'r pen arall ostwng tan y bwa maen, ac felly y bu, a'r edrychwyr a roddasant fanllef groch wrth weled y fath beth, ac amryw o honynt a yfodd at y llanc a minau am ein gwyrthiau.

Gwedi yr holl bethau hyn, yr oedd yr hen ganer yn perthyn i mi eto. Beth a'm cyfarfu un diwrnod, ond tri o'r hen deulu, ceisbyliaid Swydd Drefaldwyn; hwy ddechreuent ymaflyd yn y wedd, a myned â hi i'r tŷ tafarn yn