Llandeilo Fawr, yn agos i'r lle yr oeddwn yn cadw y gate; minau a aethym yn greulawn am i'r ceffylau gael myned i'w ystabl eu hunain, ac iddynt hwythau settlo dranoeth. Beth bynag yn ymrafael yr aeth hi, a dechreu ffusto a wnaethym, a mi a gefais ddau i lawr, ac a ddeliais i guro gyda hyny, dyma'r trydydd yn dyfod. Pan welodd hwnw ei gyfeillion ar lawr, fe ddaeth tu cefn i mi, ac a ddechreuodd fy mesur: ond dygwyddodd i hen was Rice o'r Dref Newydd ddyfod yno, ac fe gafwyd heddwch; a'r bailiaid a fynasant gonstabliaid, a chyda hwynt y bu'm i yn ddrwg fy nghwrs trwy'r nos. A chyfeillion i mi oedd o amgylch y drysau: pe cawsant ryw faint o gyfleustra, hwy a fuasent yn dybenu y tri cheisbwl maes o law; ond ustus heddwch yn y dref a ddeisyfodd arnaf fod mor heddychol ag y medrwn, y mynai ef wastadhau mater y boreu; ac felly y bu. Fe roddwyd ar ddau ŵr, un o'u tu hwy, ac un o'm tu inau; a gofyn yr oeddynt oedran y ceffylau, minau yn eu rhoi yn hen iawn, a rhai yn ddeillion, fel y rhoid digon bychan o bris; ac felly fu. Mi a ddaethym yn well nag y disgwyliais; un yn prynu a'r llall yn gwerthu, mi a'u cefais yn ol, trwy dalu yn nghylch 50p.
Ac ar ol hyny, mi a ddaethym yn fwy adnabyddus ac yn fwy fy mharch yn mhlith estroniaid, nag o'r blaen, trwy iddynt. ddeall mai cam oeddwn yn ei gael.
Y gate oedd y flwyddyn gyntaf yn lled gwla o ran profit; yr oedd fy merch hynaf yn rhoi y cwbl i lawr a dderbynid ynddi; ond yr ail flwyddyn, hi a dalodd yn bur dda; a'r drydedd fe godwyd arni 15p. ond nid drwg oedd hi yno.
Ni a fyddem yn gweled llawer yn y nos yn myned trwodd heb dalu; sef y peth a fyddent hwy yn ei alw yn gyheureth neu ledrith; weithiau hearses a mourning coaches, ac weithiau angladdau ar draed, i'w gweled mor amlwg ag y gwelir dim, yn enwedig liw nos.
Mi a welais fy hun, ryw noswaith, hearse yn myned trwy'r gate, a hithau yn nghauad; a gweled y ceffylau a'r harness, y postillion a'r coachman, a'r siobau rhawn fydd ar dopiau hearses, a'r olwynion yn pasio'r ceryg yn y ffordd fel y byddai olwynion ereill: a'r claddedigaeth yr un modd, mor debyg, yn elor ac yn frethyn du, neu os rhyw un ieuanc a gleddid, byddai fel cynfas wen: ac weithiau y gwelid canwyll gref yn myned heibio.
Unwaith pan alwodd rhyw drafaeliwr yn y gate, Edrychwch acw, ebr ef, dacw ganwyll gorph yn dyfod hyd y caeau o'r ffordd fawr gerllaw; felly ni a ddaliasom sylw arni yn dyfod,
megis o'r tu arall i'r lan; weithiau yn agos i'r ffordd, waith