Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Bywyd Dic Aberdaron Twm o'r Nant.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arall ennyd yn y caeau; ac yn mhen ychydig bu raid i gorph ddyfod yr un ffordd ag yr oedd y ganwyll; oblegid fod yr hen ffordd yn llawn o eira.

A thro arall rhyfedd am hen wr o Gaerfyrddin, a fyddai yn cario pysgod i Aberhonddu, a'r Fenni, a Monmouth, ac yn dyfod â Gloucester cheese teneuon ganddo yn ol; yr oedd fy mhobl i yn gwybod ei fod ef ar ei daith, ac yr oedd yr hin yn ddrycinog iawn, o wynt ac eira lluchio; a chanol y nos, fe glywai fy merched i lais yr hen ŵr yn y gate, a'u mham a'u galwodd hwynt ar frys, ac erchi ar i'r hen wr ddyfod at y tân. Codi a wnaeth y ferch; erbyn myn'd allan nid oedd yno neb; a thronoeth dyma gorph yr hen ŵr yn dyfod ar drol, gwedi marw yn yr eira ar fynydd Tre'r Castell: a dyna'r gwir am hwnw.

Llawer yn rhagor a ellid adrodd o'r fath bethau; ond nid ydynt ddim gwerth eu hadrodd, am nad oes fawr a'u coeliant. Ond ar ol y drydedd flwyddyn yn y gate, mi a gymerais lease yn Llandilo Fawr, ac a wnaethym dŷ i'r merched i gadw tafarn, a minau o hyd yn cario coed; fe ddarfu i'r merchant yn Abermarlais adeiladu llong fechan, a gariai gwmpas 30 neu 40 tunell; fe'i gwnaeth hi yn y coed, cylch milltir a chwarter oddiwrth afon Tywi, pa un a fyddai yn cario llestri bychain ar lif i Gaerfyrddin; ond hon a wnaed yn rhy drom i'w llusgo at yr afon yn y dull yr oedd y gŵr yn bwriadu; sef i bobl ei llusgo, o ran sport; fe roes gri mewn pedair o lanau, bod llong yn Abermarlais i gael ei launchio ryw ddiwrnod penodol, ac y byddai bwyd a diod i bawb a ddelai i roi llaw at yr achos. Felly fe ddarllawwyd pedwar hobed o'n mesur ni yn Ninbych, sef dau dêl yno; ac fe bobwyd ffwrnaid fawr o fara, ac fe brynwyd rhyw lawer o gaws ac ymenyn, a chig i'r bobl oreu: yr oedd y llong wedi rhoi pedair olwyn tani fel pedair o fothau troliau mawr, a'u cylchu â haiarn, ac echelau mawr yn y bowliau hyny; ac wedi eu hiro erbyn y dydd cysegredig. Minau oeddwn yn dygwydd llwytho yn y coed y diwrnod hwnw; ac ar ol gyru y wedd yn ei blaen, mi arosais yno i weled yr helynt; a helynt fawr a fu: bwyta yr holl fwyd, yfed yr holl ddiod, a thynu y llong o gylch pedwar rhŵd o'i lle, a'i gollwng i ffos clawdd ddofn. Erbyn hyny yr oedd hi agos yn nos, ac ymaith â'r gynulleidfa; rhai yn o feddwon, a'r lleill ag eisieu bwyd, a llawer o chwerthin oedd yn mhlith y dorf. A'r merchant a dorodd i gwyno, o ran ei ffolineb yn gwneyd y fath beth, ac yn dywedyd wrthyf, y byddai raid ei thynu oddiwrth ei gilydd cyn byth y caid hi o'r clawdd.

Minau a ddywedais y medrwn fyned a hi i'r afon ond cael